Darganfyddwch fwy am y gwaith a'r cyflawniadau ysbrydoledig ledled Cymru

Enillwyr Gwobrau Arfer Da 2026: Darganfyddwch fwy am y gwaith a'r cyflawniadau ysbrydoledig ledled Cymru  

Roedden ni wrth ein bodd gyda'r holl gyflwyniadau ysbrydoledig a gwych a dderbyniwyd gennym ar gyfer ein Gwobrau Arfer Da 2026 ac roedden ni eisiau rhannu gwaith anhygoel yr enillwyr gyda chi.

Eleni, roedden ni wrth ein bodd yn bod yng Nghaerdydd unwaith eto gyda thenantiaid, staff a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru i ddathlu a rhannu rhywfaint o'r arfer da hwn ac i gefnogi ac ysbrydoli eraill.

Cyhoeddwyd ein henillwyr a'n henwebeion ar gyfer 2026 yn ein Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd ar 17 Mehefin 2026.   

Y categorïau ar gyfer 2026 oedd: 

  1. Tenantiaid yn Dylanwadu ar Wneud Penderfyniadau
  2. Ymgysylltu â Thenantiaid mewn Mentrau / Prosiectau Amgylcheddol
  3. Cynnwys Tenantiaid wrth Ddylunio neu Adolygu Gwasanaethau
  4. Cymunedau'n Cefnogi Cymunedau
  5. Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr
  6. Rhaglen Cymorth/Cyngor i Breswylwyr
  7. Tenant y Flwyddyn
  8. NEWYDD Ymgysylltu â Thenantiaid mewn Cartrefi Diogel ac Iach
  9. NEWYDD Contractwr sy’n Canolbwyntio ar y Tenant

Rhoddwyd dwy Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig hefyd – un i landlord ac un i denantiaid.

Rydym wedi llunio'r adroddiad canlynol y gellir ei lawrlwytho i rannu'r dysgu ac ysbrydoli eraill:  

ADRODDIAD GWOBRAU ARFER DA 2026

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr 11 o geisiadau buddugol a 3 uchaf y beirniaid yn y rownd derfynol mewn rhai categorïau perthnasol.

Diolch i holl enwebwyr gwobrau eleni am ddarparu'r cynnwys ar gyfer yr adroddiad hwn. Rydym wedi ychwanegu eu manylion cyswllt ar gyfer pob un o'r ceisiadau buddugol os hoffech ddysgu mwy am y prosiectau.

Hoffem hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am ariannu'r digwyddiad yn rhannol ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i'n noddwyr drwy gydol y flwyddyn, Tai Cymru a'r Gorllewin

Logo, icon, company nameDescription automatically generated

 

Diolch i chi gyd unwaith eto ac edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad TPAS Cymru yn fuan