Partnerwch â TPAS Cymru a rhowch eich sefydliad wrth wraidd y sgyrsiau sy'n llunio dyfodol tai yng Nghymru.

Pecyn Noddi Cynhadledd Genedlaethol TPAS Cymru

Partnerwch â TPAS Cymru a rhowch eich sefydliad wrth wraidd y sgyrsiau sy'n llunio dyfodol tai yng Nghymru.

Fel yr unig sefydliad cenedlaethol sy'n ymroddedig i gyfranogiad tenantiaid, mae TPAS Cymru yn dod â thenantiaid, gweithwyr proffesiynol tai, arweinwyr y sector, aelodau etholedig, a llunwyr polisi ynghyd i rannu syniadau, dylanwadu ar newid, a chryfhau cymunedau. Mae ein cynhadledd ddeuddydd flynyddol yn denu mwy na 200 o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru, gan greu cyfle unigryw i gysylltu â'r bobl sy'n gyrru arloesedd a gwneud penderfyniadau ar draws y sector tai cymdeithasol.

Mae noddi Cynhadledd TPAS Cymru yn fwy na gwelededd brand, mae'n gyfle i ddangos eich ymrwymiad i gydweithio, cynhwysiant ac ymgysylltu ystyrlon â thenantiaid.

Bydd eich sefydliad yn elwa o hyrwyddo wedi'i dargedu cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd e-bost, blogiau, cylchlythyrau a gweithgareddau marchnata eraill, tra bod noddwyr arddangos yn cael adborth gwerthfawr ac uniongyrchol gan denantiaid a gweithwyr proffesiynol tai.

Gyda phecynnau noddi yn dechrau o ddim ond £220 ac opsiynau hyblyg i gyd-fynd ag ystod o gyllidebau ac amcanion, mae hon yn ffordd gost-effeithiol o godi eich proffil, meithrin perthnasoedd parhaol a lleoli eich brand ochr yn ochr â'r sefydliadau sy'n llunio dyfodol tai Cymru..

Manylion llawn yn y ddogfen yma