Roedd Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr.

Roedd Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr.

Mae'r darpariaethau yn y Ddeddf yn golygu y bydd y diddymiad o'r hawliau'n dod i rym ar 26 Ionawr 2019.

Ond, mae eithriad i'r dyddiad diddymu, er mwyn annog buddsoddiad mewn cartrefi newydd a'u diogelu. Bydd yr hawliau'n cael eu diddymu ar gyfer cartrefi sydd newydd gael eu cynnwys yn y stoc o dai cymdeithasol – ac felly nad oes tenantiaid eisoes yn eu rhentu – ddau fis ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mawrth 2018. 

Caiff gwybodaeth i denantiaid ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a'i hanfon at bob landlord cymdeithasol cyn pen mis o gael Cydsyniad Brenhinol. Yna, caniateir mis ychwanegol i landlordiaid roi'r wybodaeth i'w tenantiaid.

Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r Bil ar y wefan:http://gov.wales/topics/housing-and-regeneration/legislation/abolition-of-right-to-buy-and-associated-rights/?skip=1&lang=cy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â'r tîm sy'n delio â Bil yr Hawl i Brynu: [email protected]