Lansio ymgyrch digartrefedd diweddaraf Shelter Cymru (cefnogwyd gan Rhys Ifans)

 

Lansio ymgyrch digartrefedd diweddaraf Shelter Cymru (cefnogwyd gan Rhys Ifans)

Heddiw, mae Shelter Cymru wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a helpu pobl i ddeall am wir natur ddigartrefedd yng Nghymru a sut y gall pobl roi a derbyn cymorth. Os oes gennych funud, beth am fynd yn syth i'w tudalen ymgyrch bwrpasol o'r enw 7 Ffordd y gallwch chi roi terfyn ar Ddigartrefedd <https://sheltercymru.org.uk/cy/7-fford/>  sydd â ffeithiau, cyngor a ffyrdd y gallwch helpu (fodd bynnag, mewn gwirionedd mae'r 7 ffordd ychydig yn anodd eu gweld yn syth bin!)

Maent wedi cael Rhys Ifans i gefnogi a hyrwyddo'r ymgyrch a fydd yn eu helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach ac mae ar wefan y BBC y bore yma yn barod http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-39941531

Yn olaf: Os oes arnoch angen Cyngor Tai neu mewn perygl o fod yn ddigartref yng Nghymru siaradwch â Shelter Cymru, neu ewch i dudalen Cyngor ar Dai pwrpasol TPAS Cymru http://www.tpas.cymru/ynghylch/cyngor-tai