Diweddariad ar ddyddiad gweithredu Deddf Rhenti Tai (Cymru) 2016

Diweddariad ar Ddeddf Rhenti Tai (Cymru) 2016

Yn gynharach yr wythnos yma fe wnaeth TPAS Cymru dderbyn llythyr wrth Llywodraeth Cymru yn darparu diweddariad ynghylch gweithredu Deddf Rhenti Cartrefi (Cymru) 2016. Mae’r llythyr yn nodi yr hyn mae’r Llywodraeth eisoes wedi ei gwblhau wrth iddi baratoi at weithredu’r ddeddf, y gwaith sydd ar ôl i’w gwblhau a’r dyddiad rydym yn disgwyl i’r ddeddf dod i rym. Fe fydd hi ddim synod i’r rheini ohonoch sydd wedi mynychu digwyddiadau neu hyfforddiant TPAS Cymru yn ddiweddar i glywed nad ydym yn disgwyl i’r ddeddf ddod i rym cyn Ebrill 2019. Yn y llythyr, mae Llywodraeth Cymru yn ategi ei ymrwymiad i gyhoeddi pob dogfen perthnasol chwech mis cyn dyddiad gweithredu’r ddeddf. I ddarllen y llythyr yn llawn, cliciwch yma.