Diweddariad pwysig ynghylch gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi Cymru
Isod mae Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd heddiw mewn perthynas â gohirio dyddiad gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru).
Mae'r dyddiad wedi newid o 15 Gorffennaf i 1 Rhagfyr 2022.
Penderfynwyd gohirio er mwyn cynorthwyo landlordiaid a thenantiaid i baratoi ar gyfer y newidiadau sylweddol a fydd yn deillio o’r ddeddfwriaeth newydd. Byddwn yn parhau i gydweithio â landlordiaid a rhanddeiliaid eraill er mwyn paratoi ar gyfer gweithredu’r Ddeddf.
Datganiad Ysgrifenedig: Gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru): gohirio’r dyddiad gweithredu (30 Mai 2022) | LLYW.CYMRU