Beth sydd gennych chi ar y gweill Dydd Gwener ar gyfer #GreenforGrenfell?  

Bydd 15 Mehefin yn nodi blwyddyn ers trasiedi Grenfell. Mae'r trychineb wedi rhoi ysgydwad i ni gyd yn y byd Tai ac wedi cwestiynu popeth yr oeddem yn ymddiried ynddo ac yn credu ynddo mewn Tai. Mae TPAS Cymru wedi bod yn weithredol iawn wrth weithio â Rhanddeiliaid Cymru i sicrhau ni ddylai byth ddigwydd eto. Rhaid dysgu o, a rhoi’r nifer o wersi yma ar waith.

Mae Grenfell United yn sefydliad sy'n cynnwys y rhai sydd wedi goroesi ac wedi dioddef o dân Tŵr Grenfell. Gan weithio gyda'i gilydd, maen nhw'n darparu llais cryf ar gyfer pawb sydd wedi goroesi neu wedi colli anwyliaid yn y tân. Maent yn gofyn i gymunedau, ysgolion a sefydliadau gymryd rhan yn niwrnod ‘Gwyrdd dros Grenfell’:

Yn y dyddiau ar ôl y tân, daeth cymuned Grenfell at ei gilydd mewn ffordd wych o undod a chymorth, a chafwyd llawer iawn o gefnogaeth ar draws y DU gyfan.

Rydym ni eisiau'r ysbryd hwn o bobl yn dod at ei gilydd fod yn symbolaidd o ddiwrnod Gwyrdd dros Grenfell.

Dydd Gwener 15 Mehefin yw Diwrnod Gwyrdd dros Grenfell. Gofynnwn i chi, eich cymunedau, a’ch ysgolion ddod at eich gilydd i hybu undod, ysbryd a gwytnwch trwy:

• wisgo gwyrdd

• gweithio ar achos neu brosiect lleol  yn eich ardal

• rhoi gwybod i ni amdano trwy #GreenForGrenfellDay

Mae’r holl wybodaeth, adnoddau a chyngor ar gael yma 

 

Os hoffech ymuno â TPAS Cymru ac eraill yng Nghymru i ddangos undod a pharch ar ddydd Gwener, rhowch wybod i ni beth fyddwch yn ei wneud a thagiwch ni yn eich lluniau. Efallai i ni ddod o hyd i wobr am yr ymdrech gorau.

Yn ogystal, dewch yn ôl i’r dudalen hon ac fe wnawn ei ddiweddaru wrth i ni glywed am ddigwyddiadau sy'n digwydd.

@GForGrenfellDay

#GreenForGrenfellDay

Green for Grenfell

Gan David Wilton

Cyforwyddwr, TPAS Cymru