Dyma beth wnaethoch chi ddweud wrthym ni wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Ddogfen Wybodaeth i Denantiaid a’r Hawl i Brynu.
Dros yr haf fe wnaeth Llywodraeth Cymru gysylltu â TPAS Cymru, yn gofyn i ni gasglu barn tenantiaid ar draws y wlad wrth iddynt gynnal ymgynghoriad ar eglurder Dogfen Gwybodaeth Tenantiaid, a fydd yn cael ei gyhoeddi os bydd deddfwriaeth yn cael ei gyflwyno i wahardd yr Hawl i Brynu yng Nghymru. Er mwyn casglu mwy o wybodaeth cyn ymateb fe wnaeth TPAS Cymru gyhoeddi holiadur byr i gymuned Pwls Tenantiaid, i glywed eu barn nhw am eglurder y ddogfen. Yn ogystal a hyn, fe wnaethom ni gynnal pump digwyddiad ymgynghori ar draws Cymru, yn Abertawe, Bangor, Caerdydd, Sir y Fflint a’r Drenewydd. Fe wnaeth hyn rhoi cyfle i ni gasglu barn tenantiaid ar draws y wlad mewn mwy o ddyfnder a fanylder.
Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd amser i gwblhau’r holiadur ac i fynychu’r digwyddiadau ymgynghorol. Fe roedd eich ymatebion yn fanwl dros ben a drwy eich ymatebion fe wnaethom ni gasglu gwybodaeth bwysig a’i rannu gyda Llywodraeth Cymru. Rydym wedi paratoi adroddiad byr sy’n crynhoi eich ymatebion. Rydym yn gobeithio bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gymharu eich profiadau chi gyda profiadau tenantiaid eraill ar draws Cymru. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o’r holl ymatebion a dderbyniasant yn fuan. Fe fyddwn ni’n siŵr o rhannu hyn gyda chi pan fydd yn cael ei gyhoeddi.