Wrth weithio yn y sector tai cymdeithasol, yn aml iawn mae’n anodd cadw i fyny gyda’r holl derminoleg a’r mentrau diweddaraf.

Wrth weithio yn y sector tai cymdeithasol, yn aml iawn mae’n anodd cadw i fyny gyda’r holl derminoleg a’r mentrau diweddaraf. Os ydych mor hen â fi efallai eich bod wedi bod yno, wedi gwneud hynny, ac wedi prynu’r crysau-t ‘Gwerth Gorau’ a ‘Compactau Tenantiaid ‘. Yn fwyaf diweddar rydym wedi clywed llawer o siarad am Ddatblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau (ABCD yn Saesneg) a’i fod yr hyn y mae rhai wedi ei alw’n ymagwedd ‘newydd’ i weithio gyda chymunedau yn seiliedig ar ‘Asedau’. Do, efallai eich bod chithau hefyd wedi clywed amdano, ond beth ydyw? Wel ynghyd a’m cydweithwyr Helen a Phoenix, penderfynasom ymchwilio i’r ymagwedd ‘newydd’ yma a dod i ddysgu mwy am Ddatblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau.
 

Yn ddiweddar bu i ni gwrdd â Derith Powell, menyw hynod brofiadol o Ddatblygu Cymunedol Cymru ac sydd, gan ei chyfaddefiad ei hun, wedi gweithio mewn cymunedau am lawer o flynyddoedd i ddarganfod beth yn union ydi Datblygu Cymunedol sy’n seiliedig ar Asedau. Roeddwn yn meddwl ‘mod i’n gwybod rhai darnau, ond rhoddodd Derith ddealltwriaeth bywyd go iawn i ni, sydd wedyn yn rhoi cyfle i ni feddwl am Ddatblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau yng nghyd-destun tai cymdeithasol.

Yn gyntaf i ni yn y sector tai cymdeithasol, gall y gair ‘asedau’ fod ag ystyr hollol wahanol yn gyfan gwbl gan fod gennym bellach bethau fel Strategaethau Rheoli Asedau a Thimau Rheoli Asedau yn edrych ar ôl y stoc dai, er ein bod oll yn gwybod mai atgyweiriadau a chynnal a chadw y’i gelwir yn y byd go iawn.

Yn nhermau ‘Datblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau’ gall ‘asedau’ amrywio o anrhegion personol a sgiliau unigolion i grwpiau cymunedol lleol, rhwydweithiau a mentrau cymdeithasol yn ogystal ag asedau ffisegol fel cyfleusterau a’r amgylchedd lleol. Felly, mae Datblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau yn ei hanfod yn ymagwedd neu’n ddull sy’n seiliedig ar yr egwyddor o nodi a chasglu’r ‘asedau’ unigol a chymunedol hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar broblemau ac anghenion a bennwyd ymlaen llaw (h.y. ‘diffygion’).

Byddem oll yn gwybod am gymunedau lle’r ydym yn byw neu’n gweithio ynddynt sydd yn llawn ‘asedau’ ond eto lle byddai rhai sefydliadau proffesiynol ac o bosib sefydliadau pell sy’n cael eu gyrru gan anghenion, efallai yn eu gweld fel cymunedau sy’n methu neu gymunedau sy’n ddifreintiedig yn gymdeithasol. Mae Datblygu Cymunedol sy’n seiliedig ar Asedau yn symudiad pendant i ffwrdd o’r ymagwedd besimistaidd yma ble mae rhai sefydliadau cyhoeddus yn nodi problemau ac yna yn ceisio gweithredu fel arbenigwyr, gan obeithio eu datrys.

Fel yr oeddwn yn mynd i’r afael â theori Datblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau dechreuais feddwl am sut y gallai’r dull hwn o weithredu weithio orau yn y sector tai cymdeithasol. Roedd dau beth yn sefyll allan i mi.

Yn gyntaf, gall Datblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau fod yn llosgwr araf, mae dulliau asedau yn cymryd amser. Mae’n cymryd amser i adeiladu perthynas gyda chymunedau, amser i nodi eu cryfderau ac asedau ac amser i ysgogi’r asedau. Bydd angen i sefydliadau, yn enwedig eu penaethiaid uwch, dderbyn na fydd y newid yn digwydd dros nos, ond yn digwydd yn raddol. Efallai mai un ffordd yw i sefydliadau ddechrau gyda phrosiect peilot bach hyd yn oed ar lefel stryd a derbyn bod y dull hwn yn gofyn amser a rhywfaint o arbrofi ar hyd y ffordd.

Yn ail, mewn tai cymdeithasol, mae’n debyg y bydd angen newid mewn meddylfryd os am fabwysiadu dull Datblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau gan y bydd ymagwedd asedau yn annhebygol o weithio ag agendâu a bennwyd ymlaen llaw. Mae’n ymwneud â gadael i gymunedau osod yr agenda. Efallai y bydd angen rhywfaint o newid diwylliant, ar draws y sefydliadau ac o’r pen uchaf i lawr. I rai sefydliadau gall fod yn anodd ailystyried eu harferion o ymagwedd ‘diffygion’ a hyd yn oed eu defnydd o iaith; Yn y byd tai mae gennym dueddiad ar brydiau i feddwl mwy tuag at ‘agored i niwed’, ‘anghenion’ a ‘dirywiad’. Mae’n amser i feddwl a siarad am “gryfderau” ac “asedau”.

Mae’n amlwg bod Datblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau yn gam pendant i ffwrdd o fodel diffygion traddodiadol ac mae’n cymryd newid mewn agwedd a meddylfryd. Gydag amser, gallai’r meddylfryd calonnog ymagwedd ‘asedau’ ddarparu cyfle ffantastig i’r sector tai cymdeithasol i rymuso cymunedau lleol i gymryd mwy o rôl wrth wella a siapio eu cymunedau eu hunain.

David Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr
E-bost: [email protected]
Twitter: @DavidTheLloyd