Yn ystod cyfnod ariannol anodd i’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru, nid yw gwneud y gorau o adnoddau er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau i denantiaid a phreswylwyr yn werth am arian yn unig, mae’n gwneud synnwyr busnes da. Ond peidiwch â rhuthro i mewn gan feddwl bod hyn yn golygu, torri costau a gwella effeithiolrwydd.
Yn ddiweddar, rydym wedi clywed llawer o drafod yn y sector dai cymdeithasol yng Nghymru am werth am arian (GaA). Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru wedi ymrwymo i gefnogi a galluogi cymdeithasau tai yn rhagweithiol i sicrhau canlyniadau gwell i denantiaid, cwsmeriaid a chymunedau. Er mwyn helpu i wneud hyn, maent wedi gofyn i’r Grŵp Cynghori Rheoleiddio i arwain adolygiad thematig ar Werth am Arian er mwyn deall sut mae cymdeithasau yn defnyddio GaA i yrru gwelliannau gwasanaeth i denantiaid a gwneud y gorau o enillion cymdeithasol ac effaith gymdeithasol.
Yr wythnos hon, rydym hefyd wedi gweld lansiad cyhoeddiad ar y cyd rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a HouseMark Cymru sy’n rhoi canllaw ymarferol a defnyddiol iawn ar Werth am Arian ar gyfer y sector.
Wrth i drafodaethau GaA barhau ac wrth i GaA gael ei ymgorffori i mewn i arferion gwaith, mae angen i ni feddwl am sut i ddarparu cyfleoedd i denantiaid, preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan. Mae tenantiaid yn fasnachol ymwybodol ac yn chwilio am werth am arian ym mhob maes o’u bywydau eu hunain, sy’n cynnwys mynnu’r gorau o ran GaA gan eu landlord; Gall hyn fod yn gymhelliant go iawn i denantiaid i gymryd rhan. Gall hyn gynnwys diffinio, monitro ac asesu GaA yn ogystal ag wrth osod Safonau Gwasanaeth GaA
Gall Denant Sgriwtini, Arolygwyr, paneli, grwpiau ffocws a dulliau cyd-gynhyrchu i gyd fod â rhan fawr i’w chwarae o ran sicrhau bod landlordiaid yn cynnig ac yn darparu gwasanaethau GaA i bawb yn eu cymunedau.
Yn ddiweddar, rwyf wedi cyflwyno rhai gweithdai hyfforddi ynghylch gwerth am arian (GaA) a rôl tenantiaid sydd wedi ysgogi rhai trafodaethau a syniadau gwych. Un neges sy’n dal i ddod i’r amlwg yw mai dim ond un elfen o fesur gwerth yw cost, ac y dylai elw ar fuddsoddiad hefyd ystyried mesurau cymdeithasol, yn ogystal â mesurau ariannol syml. Pan fyddwch yn meddwl am y gwahaniaeth gwirioneddol y mae Landlordiaid Cymdeithasol yn ei wneud yn eu cymunedau, gall mesur effaith gymdeithasol helpu landlordiaid dangos y gwir werth mae eu gwasanaethau yn eu darparu. Fodd bynnag, nid yw’r mesur ‘mwy meddal’ yma wastad yn hawdd ac yn aml iawn nid yw’n rhywbeth y mae’r sector wedi arfer ei wneud. Gall fod yn symlach i edrych ar y 3 ‘E’ yn unig: economi (cost), effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
Yn ystod ein sesiynau gweithdy buom hefyd yn edrych yn ehangach na’r 3 ‘E’ a gwerth cymdeithasol GaA drwy ddefnyddio ein ‘pecyn asesu GaA’. Mae’r offeryn yn helpu i archwilio ac ystyried cydraddoldeb, gwerth amgylcheddol a moesegol o gyflwyno gwasanaeth. Galluogodd i denantiaid ddod o hyd i dystiolaeth i wir ddangos gwerth gwasanaeth a syniadau ynghylch sut y gellid gwella GaA.
O gofio y bydd amserau ariannol anodd yn parhau, bydd optimeiddio adnoddau landlord i gyflawni gwasanaethau gwell yn hanfodol. Mae angen i denantiaid fod yn rhan o sut mae hyn yn cael ei gyflawni a chael cyfleoedd i weithio gyda’u landlordiaid i ddiffinio a dangos gwerth arian.
Am ragor o wybodaeth am gefnogaeth a gweithdai hyfforddi ar Werth am Arian, cysyllter â:
David Lloyd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol, TPAS Cymru
[email protected]
Twitter: @DavidTheLloyd