Gŵyl Rhyngwladol Tai Cymdeithasol
Dydd Gwener ddiwethaf (16 Mehefin) gwahoddwyd TPAS Cymru i gymryd rhan mewn dadl yng Ngŵyl Ryngwladol Tai Cymdeithasol. Roedd yr Ŵyl, a gynhaliwyd yn Amsterdam dros sawl diwrnod, yn archwilio nifer o wahanol agweddau ar dai cymdeithasol, gyda'r bwriad o baratoi'r sector ar gyfer heriau a'r pethau annisgwyl yn y dyfodol. Roedd yr Ŵyl a fynychwyd gan unigolion o bob cwr o'r byd ac yn cynnwys gweithwyr proffesiynol tai, gwneuthurwyr polisi, academyddion a thenantiaid, yn darparu amgylchedd ffrwythlon ar gyfer rhannu syniadau ac arfer gorau.
Gwahoddwyd TPAS Cymru i gymryd rhan mewn un o sesiynau’r Ŵyl, “Diddordebau’r Tenantiaid mewn Dinasoedd Ewropeaidd”. Trefnwyd y sesiwn gan Gymdeithas Tenantiaid Amsterdam gyda chyfranogwyr o bob cwr o Ewrop yn cael eu gwahodd i ymuno dros skype. Cynrychiolwyd TPAS Cymru yn y ddadl gan Steffan Evans, a oedd yn ymuno â thri phrif siaradwyr eraill; Jasminke Husanović Tadić, o’r Gymdeithas Tenantiaid, Tuzla (Bosnia a Hertsegofina), Tadeaus Staromestan, Cadeirydd Sefydliad ar gyfer yr Hawl am Dai, Bratislava (Slofacia), a Antoni Vidal, Cyfarwyddwr Ffederasiwn Cymdogaeth Tai Cymdeithasol o Gatalonia, Barcelona (Sbaen).
Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar rai o’r heriau a wynebir gan denantiaid tai cymdeithasol a'r sector tai cymdeithasol yn fwy cyffredinol yn y pedair gwlad. Roedd yn ddiddorol nodi bod er gwaethaf natur amrywiol bob un o'r pedair dinas, mae nifer o heriau cyffredin yn bresennol. Un her o'r fath oedd diffyg argaeledd tai fforddiadwy, yn arbennig diffyg tai cymdeithasol. Roedd nifer o resymau am y prinder hwn mewn tai cymdeithasol, rhai yn unigryw i bob dinas unigol. Er enghraifft, yn Barcelona, roedd nifer yr achosion o dwristiaeth wedi arwain i ganol y ddinas ddod yn anfforddiadwy i'r rhan fwyaf o drigolion lleol, gan roi pwysau ar y stoc tai yn y ddinas yn ei chyfanrwydd. Yn Tuzla a Bratislava, fodd bynnag, mae cynnydd sylweddol yn mherchen-feddiannaeth yn dilyn cwymp comiwnyddiaeth wedi arwain at ddiffyg yn nifer yr eiddo a oedd ar gael i'w rhentu ym mhob deiliadaeth, gan gynnwys y sector rhentu cymdeithasol.
Her arall cyffredin y mae'r cyfranogwyr ym mhob un o'r pedair gwlad yn ei wynebu oedd sut i annog pobl ifanc i gymryd rhan â'u landlordiaid a sut i'w cael yn wleidyddol weithredol. Roedd Technoleg i'w weld yn offeryn arbennig o bwerus wrth geisio rhoi hwb i gyfranogiad, gyda'r cyfranogwyr eraill yn dangos diddordeb yn y gwaith a wneir gan TPAS Cymru wrth geisio annog mwy o ddefnydd o gyfathrebu fideo yn y sector yng Nghymru. Roedd y grŵp a'r gynulleidfa hefyd yn awyddus i glywed mwy am Bwls Tenantiaid, a sut yr oedd TPAS Cymru yn gobeithio ymgysylltu â thenantiaid anodd eu cyrraedd mewn ffyrdd newydd.
Pwnc arall a drafodwyd oedd sut i sicrhau bod tai yn fater pwysicach yn wleidyddol. Roedd y drafodaeth yn arbennig o ddiddorol o ystyried bod yna hefyd rhywfaint o ddatganoli yn Sbaen a Bosnia a Herzegovina fel yng Nghymru. Golyga hyn bod y Ffederasiwn Cymdogaeth Tai Cymdeithasol Catalonia, a Chymdeithas Tenantiaid Tuzla yn wynebu anawsterau sy'n gyffredin â TPAS Cymru wrth geisio ymdrin â pholisïau a deddfwriaeth sy'n cael eu datblygu mewn mwy nag un Senedd / Cynulliad. Fel yng Nghymru, teimlwyd hefyd bod materion cyfansoddiadol i'w weld yn dominyddu'r tirlun gwleidyddol yng Nghatalonia. Yn weddol debyg i Brexit yn y DU, teimlwyd bod y refferendwm arfaethedig ar annibyniaeth Catalaneg yn dominyddu sgyrsiau gwleidyddol yn Barcelona. Yr oedd yn ddiddorol clywed a dysgu am y dulliau gweithredu sydd gan Ffederasiwn Cymdogaeth Tai Cymdeithasol Catalonia wrth geisio sicrhau nad oedd tai yn faes polisi a gafodd ei anghofio amdano yn ystod y ddadl hon.
Hoffai pawb yn TPAS Cymru ddiolch i Gymdeithas Tenantiaid Amsterdam am y gwahoddiad i ymuno yn y drafodaeth ar-lein ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi eto yn y dyfodol.