Beth mae tenantiaid yn ei feddwl go iawn am dai fforddiadwy yng Nghymru

 

Llais Tenantiaid ar Dai Fforddiadwy yng Nghymru   

Fel y gwyddoch o’n blog blaenorol, cyflwynasom ymateb i ymgynghoriad i sicrhau llais i denantiaid yn yr Adolygiad am Dai Fforddiadwy. Yn ychwanegol at hyn, bu i ni eistedd ar ddau o'r deg grŵp llif gwaith ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu arolwg i denantiaid. Diolch i bob un ohonoch a gwblhaodd ein arolwg Pwls Tenantiaid - mae hyn wedi rhoi mewnwelediad i Lywodraeth Cymru o farn tenantiaid am ddatblygu tai fforddiadwy newydd yng Nghymru. Mae eich mewnbwn, fel arfer, wedi bod yn werthfawr iawn. 

Y mannau a ganolbwyntiwyd arnynt yn yr arolwg oedd: 

1) Dyluniad eich cartref a chostau cynnal

2) Sut yr adeiladir y cartrefi 

3) Y rent a godir arnoch 

4) Eich landlord 

5) Rhentu a Pherchentyaeth 

6) Tai a Chymunedau 

Bu i 224 o denantiaid gwblhau’r arolwg. Cliciwch yma i weld yr adroddiad llawn.