Dyma beth wnaeth Cymuned Pŵls Tenantiaid ddweud wrthym ni am werth am arain o fewn y sector dai cymdeithasol yng Nghymru. 

 

Llais y Tenantiaid ar Werth am Arian

Yn 2017 nododd Grŵp Llywio Adolygiad Thematig Gwerth am Arian Llywodraeth Cymru fod angen datblygu dull effeithiol o gasglu barn tenantiaid ar werth am arian. Cytunodd TPAS Cymru i gynorthwyo’r Grŵp Llywio gyda’r gwaith hwn.

Er mwyn casglu barn tenantiaid ar Werth am Arian fe wnaeth TPAS Cymru ddefnyddio dau dull:

  1. Pwls Tenantiaid – arolwg ar-lein a phost ar gyfer aelodau Pwls Tenantiaid, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018.
  2. Cwblhau holiaduron arolwg mewn digwyddiadau TPAS Cymru: 3 Rhwydwaith Tenantiaid Rhanbarthol a Chynhadledd Flynyddol a gynhaliwyd yn ystod Hydref a Thachwedd 2017.

Diolch i'r holl denantiaid a wnaeth cymryd yr amser i gwbwlhau'r holiaduron ac i fynychu'r digwyddiadau. Roedd yr ymatebion yn drylwyr a manwl iawn ac fe wnaethant rhoi gwybodaeth defnyddiol i ni wnaethom ni rhannu a Llywodraeth Cymru a'r Grŵp Llywio Adolygiad Thematig Gwerth am Arian.

Mae TPAS Cymru wedi paratoi adroddiad byr, yn crynhoi'r ymatebion. Rydym ni'n gobeithio ei fydd yn rhoi cyfle i denantiaid gymharu eu profiadau â thenantiaid eraill ar draws Cymru, tra'n rhoi cyfle i landlordiaid a rhanddalwyr arall i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i denantiaid. 

I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch yma.