Llywodraeth Cymru yn edrych i gyflwyno deddfwriaeth newydd yn ymwneud a thai
Ar dydd Mawrth 27 Mehefin fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei blaenoriaethau deddfwriaethol am y flwyddyn nesaf. Mae ‘na gyfanswm o pump darn o ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru am eu cyflwyno dros y deuddeg mis nesaf. Mae dau allan o’r pump yma yn ymwneud a thai.
Fe fydd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth sydd yn cael ei gynnig gan Llywodraeth Cymru yn gwahardd asiantau tai rhag codi ffioedd “annheg rhag blaen” ar denantiaid o fewn y sector rhenti preifat. Mae geiriad datganiad Llywodraeth Cymru yn crybwyll na fydd y ddeddfwriaeth yn arwain at waharddiad llwyr ar ffioedd asiantau tai, fel sydd yn digwydd yn yr Alban eisoes, ac fel sydd wedi ei crybwyll yn Lloegr. Fe allwn ddisgwyl mwy o wybodaeth wrth Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf, fodd bynnag, o ran beth bydd bwriad y Bil – gwahardd ffioedd asiantau yn llwyr, neu gosod uchafswm ar hyn y bydd hawl gan asiantau godi.
Mae’r ail ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi ei gynnig gan Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio sail deddfwriaethol rheoleiddio tai cymdeithasol yn Nghymru. Ni fydd y cynnig deddfwriaethol yma yn dod fel sioc i’r rheini sydd wedi bod yn cadw llygad ar gymdeithasau tai a rheoleiddio tai cymdeithasol yn Nghymru dros y misoedd diwethaf. Yn dilyn penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i ail-ddosbarthu cymdeithasau tai yn Nghymru fel rhan o’r sector cyhoeddus, yr Hydref diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cymryd camau i geisio gwirdroi’r penderfyniad. Mae Llywodraeth Cymru eisioes wedi gwneud newidiadau i fframwaith rheoleiddio cymdeithasau tai, ac mae’r Bil yma yn gam arall o’r broses. Mae Llywodraeth Cymru eisioes wedi agor ymgynghoriad ar y cynig deddfwriaethol yma ac mae ‘na ddal cyfle i chi ymateb. Mae TPAS Cymru wedi danfon ein ymateb ni yn barod.
Fe fydd TPAS Cymru yn cadw llygad barcud ar y ddau ddarn gynnig deddfwriaethol yma wrth iddynt ddatblygu dros y deuddeg mis nesaf. Fe wnawn ni’n siwr ein bod yn diweddaru ein haelodau ar beth all y newidiadu yma feddwl i chi, ac fe fyddwn yn gweithio i gyflwyno eich barn i Lywodraeth Cymru.