Yn TPAS Cymru rydym wastad yn gweithio i gefnogi a gwella cyfranogiad tenantiaid ledled Cymru. Felly, mae dod o hyd i ffyrdd newydd ac effeithiol o ymgysylltu â thenantiaid a’r gymuned yn flaenoriaeth i ni. Yn un o’n dyddiau hyfforddi’r wythnos diwethaf (Dulliau Amgen i Ymgysylltu Cymunedol) daeth nifer o weithwyr proffesiynol tai at ei gilydd a buom yn trafod rhai o’r dulliau a’r gweithgareddau mwyaf effeithiol a all gael tenantiaid i gyfranogi â’u landlord.
Un o’r dulliau ar gyfer cyfranogiad y buom yn edrych arno oedd defnyddio dulliau creadigol, a chafodd enghreifftiau gwych eu rhannu. Cafwyd y Knitters and Natters yn Taff HA a Grŵp Crefft yn Wales & West HA fe rhai enghreifftiau o weithgareddau creadigol presennol a grybwyllwyd, y ddau yn llwyddiannus iawn a heb fawr o gost i’r cymdeithasau tai.
Mae’n wych clywed am y grwpiau creadigol sydd eisoes ar waith, ond credaf bod digon o le i wneud llawer mwy yn y maes hwn. Mae’r potensial sydd gan y mathau hyn o grwpiau yn sylweddol. Nid yn unig y maent yn hwyl, maent yn gynhwysol iawn gan y gall unrhyw un gymryd rhan. Mae gan weithgareddau creadigol lai o bwyslais ar sgiliau llafar ac ysgrifenedig sydd yn rhwystr i lawer o bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfranogi mwy ffurfiol. Gallant hefyd gael eu cysylltu ar gyfer amrywiaeth o oedrannau a galluoedd. Ar gyfer pobl hŷn gall cymryd rhan mewn grŵp creadigol leddfu arwahanrwydd cymdeithasol, ac ar gyfer pobl iau gall fod yn gyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd am ychydig iawn neu dim cost o gwbl, fel dosbarthiadau drama neu gerddoriaeth. Gall darparu allfeydd creadigol ar gyfer tenantiaid a chymunedau hefyd hyrwyddo cydlyniant cymunedol.
Mae gweithgareddau creadigol hefyd yn gallu creu cyfleoedd ar gyfer llawer o wahanol fathau o adborth a gwybodaeth a gellir eu defnyddio yn hawdd ar gyfer ymgynghori effeithiol neu ar gyfer archwilio pynciau mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, gall cerddoriaeth, celf a drama i gyd gael eu defnyddio fel ffyrdd i fynegi barn, yn enwedig barn y bobl ifanc. Gall y gwaith creadigol a gynhyrchwyd gan denantiaid a’r gymuned hefyd fod yn newid braf o adroddiad ysgrifenedig a bod yn fwy deniadol i gynulleidfa ehangach. Beth am gael tenantiaid yn gwneud eu fideo, drama radio eu hunain neu brosiect ffotograffiaeth i leisio eu barn mewn ffordd wahanol?
Yn ogystal â bod o fudd i denantiaid a chymunedau a chreu cyfleoedd i gasglu adborth ansoddol pwrpasol ar gyfer y Landlord, gall defnyddio dulliau creadigol ar gyfer cyfranogiad fod yn un o’r dulliau mwyaf cost effeithiol a gwerthfawr i gyfranogi. Gyda chyllid yn gynyddol dynn mae hyn yn ystyriaeth bwysig.
Buaswn yn awyddus iawn i glywed am eich defnydd chi o ddulliau creadigol i gyfranogi a pha mor effeithiol neu aneffeithiol yr ydych wedi eu cael . Os hoffech unrhyw gymorth neu gyngor mewn datblygu neu sefydlu gweithgaredd creadigol neu brosiect, yna cysylltwch â ni. Rwyf hefyd yn y broses o ddatblygu diwrnod hyfforddi manwl ar ‘Gwneud y Gorau o Ddulliau Creadigol ar gyfer Cyfranogiad Tenantiaid’.
Phoenix Averies
Swyddog Prosiectau (De Cymru)
Twitter: @Phoenix_TPAS