Yn dilyn cyfarfod Bwrdd Rheoleiddio Cymry ym mis Medi mae Helen White, cadeirydd y Bwrdd, wedi paratoit nodyn briffio ar yr hyn a drafodwyd. Gellid canfod y nodyn isod. 

 

Nodyn Briffio Bwrdd Rheoleiddio Cymru, Medi 2017

Yn dilyn cyfarfod Bwrdd Rheoleiddio Cymry ym mis Medi mae Helen White, cadeirydd y Bwrdd, wedi paratoit nodyn briffio ar yr hyn a drafodwyd. Gellid canfod y nodyn isod. 

 
Cynhaliwyd cyfarfod y Bwrdd y chwarter hwn gan Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru.
 
Bu'r adborth hyd yma ar fformat a chynnwys y papurau briffio hyn yn gadarnhaol iawn. Mae'n bwysig iawn imi fod Byrddau a Chadeiryddion Byrddau yn teimlo eu bod yn rhan o waith Bwrdd Rheoleiddio Cymru. Gobeithio y bydd hon yn ffordd ddefnyddiol o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith. Byddwn yn croesawu adborth pellach ac yn gobeithio gweld llawer ohonoch yng nghynhadledd blynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru sydd yn yr arfaeth.
 
Trafodwyd y goblygiadau parhaus i'r sector Cymdeithasau Tai yn sgil trychineb Tŵr Grenfell. Mae Byrddau Cymdeithasau Tai yn chwarae rôl allweddol o ran goruchwylio cydymffurfiaeth ar gyfer nifer o faterion, gan gynnwys materion sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch. Byrddau unigol sy'n penderfynu sut y byddant yn cael sicrwydd gan eu Gweithrediaeth ei bod yn ymdrin â'r holl faterion cydymffurfiaeth yn briodol. Mewn ymateb i Grenfell, mae'r ffordd y mae'r tîm rheoleiddio yn ymdrin â materion iechyd a diogelwch yn cael ei hadolygu er mwyn sicrhau bod rheolwyr rheoleiddio yn gofyn y cwestiynau cywir ac yn cwmpasu pob maes risg allweddol yn eu contract rheoleiddiol. Mae Bwrdd Rheoleiddio Cymru wedi gofyn am adroddiad llawn ar y ffordd y mae'r tîm rheoleiddio yn gweithredu, a gaiff ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.
 
Trafododd Bwrdd Rheoleiddio Cymru y themâu allweddol sy'n deillio o ymgysylltu rheoleiddiol ynghylch achosion cymhleth ar hyn o bryd. Mae'r mwyafrif llethol o'r problemau sy'n dod i'n sylw yn deillio o broblemau gyda threfniadau llywodraethu gwael. Erys yn achos pryder inni nad yw rhai Byrddau yn ymwybodol o gryfderau a gwendidau eu trefniadau llywodraethu. Mae trefn lywodraethu gadarn, effeithiol ar lefel y Bwrdd yn hanfodol i lwyddiant y sector. Gobeithio bod hyn yn rhywbeth y mae'ch Bwrdd yn ei gydnabod ac y byddwch yn parhau i geisio 'dal drych' i chi'n hunain a cheisio mynd i'r afael â'r problemau a nodwyd.
 
Mae ein hadolygiad thematig o Lywodraethu yn parhau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ddatblygu trefniadau llywodraethu ardderchog yn y sector. Caiff ei waith ei gwblhau a'i gyflwyno i gynhadledd Llywodraethu Cartrefi Cymunedol Cymru ym mis Mawrth 2018.
 
Treuliwyd cryn dipyn o amser yn ystyried effaith y Lwfans Tai Lleol ar y sector. Ers ein cyfarfod, rydym wedi cael y newyddion da bod y cap ar y lwfans tai lleol wedi cael ei ddileu. Nid yw'r gwaith hwnnw wedi bod yn ofer oherwydd mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran datblygu syniadau'r Bwrdd ynglŷn â'r angen am fodelau busnes cynaliadwy a fforddiadwyedd.
 
Mae'r Rheoleiddiwr yn disgwyl, a hynny'n hollol gyfiawn, y bydd gan Fyrddau strategaethau clir i reoli costau a sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu'n effeithlon. Rydym yn gobeithio bod ein hadolygiad thematig o Werth am Arian yn cynorthwyo trafodaethau Byrddau ar y mater hynod bwysig hwn. Rydym yn cefnogi'r Rheoleiddwr yn ei ymdrech i sicrhau gwell dealltwriaeth o gostau Cymdeithasau Tai. Bydd defnyddio data o'r fath yn y broses reoleiddio yn galluogi'r sector i sicrhau gwell gwerth am arian. Bydd hyn, yn ei dro, yn ei gwneud yn bosibl i fuddsoddi mwy mewn cartrefi newydd a gwasanaethau gwell i'r tenantiaid presennol. Mae Bwrdd Rheoleiddio Cymru yn llwyr dderbyn mai cymdeithasau tai sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ynglŷn â'u costau a'u buddsoddiadau eu hunain. Fodd bynnag, hoffem eu hannog i wneud y penderfyniadau hyn gan wybod sut mae'r costau hyn yn cymharu ag eraill sy'n gweithredu yn y sector.
 
Ers ein cyfarfod diwethaf, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi ei adroddiad yn dilyn yr Ymchwiliad i drosolwg rheoleiddiol cymdeithasau tai. Mae Bwrdd Rheoleiddio Cymru yn croesawu canfyddiad yr Adroddiad bod "llywodraethu a rheoleiddio yn y sector tai yn gweithio yn ddigon da i gymdeithasau tai gael mwy o ymreolaeth" a bod y "Dyfarniadau Rheoleiddio newydd yn gam yn y cyfeiriad iawn" a dylai cymdeithasau tai "wneud mwy i fod yn agored ac yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau".
 
Rydym yn ymrwymedig o hyd i gadw tenantiaid wrth wraidd rheoleiddio. Rydym yn parhau i weithio gyda TPAS i ymgorffori ein dull gweithredu newydd yn effeithiol. Rydym hefyd wedi penderfynu y bydd ein hadolygiad thematig newydd yn canolbwyntio ar yr hyn y mae tenantiaid wrth wraidd rheoleiddio yn ei olygu yn yr amgylchedd tai modern. Bydd hyn yn cynnwys materion o ran y ffordd orau o sicrhau bod y Bwrdd yn cael y wybodaeth sydd ei hangen oddi wrth denantiaid er mwyn gwneud ei waith yn effeithiol. Caiff gwaith cwmpasu llawn yr adolygiad ei wneud yn y dyfodol agos.
 
Erbyn hyn byddwch wedi cael llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â thaliadau i Aelodau'r Bwrdd. Hyderaf y caiff hyn ei drafod yn eich Bwrdd ar yr adeg briodol.
 
Gobeithio y bydd y diweddariad hwn yn ddefnyddiol i chi. Croesawaf unrhyw adborth.
 
Helen White (Cadeirydd)
Bwrdd Rheoleiddiol Cymru