Nodyn Briffio Bwrdd Rheoleiddio Cymru, Mehefin 2017
Yn dilyn cyfarfod Bwrdd Rheoleiddio Cymry ym mis Mehefin mae Helen White, cadeirydd y Bwrdd, wedi paratoit nodyn briffio ar yr hyn a drafodwyd. Gellid canfod y nodyn isod.

Cafodd cyfarfod chwarterol diwethaf y Bwrdd ei gynnal gan Gymdeithas Tai Taf, a hynny yn ei chyfleuster cynadledda ar Cowbridge Road East, Caerdydd. Gwnaethom fwynhau clywed am waith y gymdeithas gyda chymunedau a thenantiaid yn fawr, ac rydym yn ddiolchgar iddi am ei chroeso cynnes.
Mae'r Bwrdd yn canolbwyntio'n rheolaidd ar achosion cymhleth presennol. Fodd bynnag, yn ystod y cyfarfod hwn, canolbwyntiwyd yn fwy ar y prif risgiau a themâu sy'n codi oherwydd y gweithgarwch rheoleiddio amrywiol dros y misoedd diwethaf. Ystyriwyd tair thema allweddol yn fanwl – peidio â chroesawu cyd-reoleiddio, cyflwyno gwybodaeth o ansawdd gwael i'r Bwrdd ac arallgyfeirio anghraidd risg uchel.
Mae'n bwysig bod pob Bwrdd yn cymryd yr amser i oedi am funud a gofyn y cwestiwn – "allai hwn fod yn wir am ein Bwrdd/ein sefydliad ni?" Gall unrhyw sefydliad effeithiol wneud penderfyniad gwael os nad oes llywodraethu cadarn a fframwaith sicrwydd priodol ar waith. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r gwerth y mae cyllidwyr cymdeithasau tai yn ei roi ar fframwaith rheoleiddio Cymru, ac mae'r broses barhaus o graffu ar ansawdd llywodraethu yn cyfrannu'n allweddol at yr hyder hwnnw.
Clywodd y Bwrdd am yr ystod o enghreifftiau o ddiffyg cyd-reoleiddio, megis methu â rhoi gwybod am ddigwyddiadau arwyddocaol, gan gynnwys torri cyfamodau a pheidio â chyflwyno ffurflenni gofynnol megis ffurflenni Atodlen 1. Mewn amgylchedd cyd-reoleiddio, mae'r Bwrdd Rheoleiddio yn nodi'n glir bod yn rhaid i gymdeithasau tai fod yn rhagweithiol drwy roi gwybodaeth bwysig a chynnal perthynas agored a pharchus y gellir ymddiried ynddi gyda'r rheoleiddiwr. Mae'n rhaid iddynt hefyd weithredu pan na chedwir at egwyddorion cyd-reoleiddio.
Ystyriwyd enghreifftiau o gyflwyno gwybodaeth o ansawdd gwael i Fyrddau – hynny yw, gormod o wybodaeth a dim digon o wybodaeth. Mae'n rhaid i Fyrddau gael darlun cyflawn er mwyn gwneud penderfyniadau cadarn, ac mae angen iddynt ofyn i'w hunain – a ydym yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnom i arfer rheolaeth a deall perfformiad yn glir? A ydym yn gwybod am bob mater o bwys ynghylch perfformiad? Pa mor dda ydym yn craffu ar ein Datganiad Cydymffurfio Blynyddol ac yn ei herio? Daeth y Bwrdd Rheoleiddio i'r casgliad y gall fod angen rhoi rhywfaint o arweiniad i Fyrddau ar fframweithiau sicrwydd.
Roedd yn achos pryder i'r Bwrdd glywed am enghreifftiau o arallgyfeirio gan gymdeithasau tai, enghreifftiau nad ydynt wedi bod yn seiliedig ar resymau busnes cadarn a/neu'n amlwg yn gysylltiedig ag amcanion sefydliadau a Chynlluniau Busnes. Mae arallgyfeirio ac arloesi yn hanfodol wrth ddatblygu ein sector, ond rhaid i sgiliau sefydliadol a sgiliau Bwrdd priodol, yn ogystal â llywodraethu da, fod yn sail iddynt.
Mae Adolygiad y Bwrdd o Lywodraethu newydd ddechrau, a bydd y tair thema hon yn rhan o'r gwaith hwnnw. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys pob cymdeithas dai a rhanddeiliaid allweddol. Mae nifer o arolygon wedi'u dosbarthu i ddatblygu sail wybodaeth i'r adolygiad. Gobeithio bod pob un ohonoch wedi cymryd yr amser i roi eich barn. Mae'r arolygon hyn, rhai gweithdai sy'n cael eu cynllunio gennym ar gyfer yr Hydref ac ymwneud y sector â'r grŵp llywio Adolygu yn rhoi'r cyfle i chi
gyfrannu at ddarn pwysig o waith. Bydd y gwaith yn ategu'r broses o ddatblygu llywodraethu gwych o fewn y sector. Cymerwch ran.
Mae clywed llais y tenantiaid yn allweddol bwysig i'r Bwrdd o hyd, felly rydym yn falch o weld adroddiad cyntaf TPAS Cymru ar ei waith o gasglu barn tenantiaid. Rydym wedi gofyn i TPAS am ragor o wybodaeth yn y dyfodol er mwyn i raddfa a chwmpas pryderon tenantiaid ddod yn gliriach ac er mwyn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd hefyd ein bod yn clywed barn amrywiaeth ehangach o denantiaid. Bydd y Bwrdd yn defnyddio'r wybodaeth o'r prosiect hwn er mwyn creu darlun o bryderon tenantiaid ac er mwyn helpu i benderfynu p'un a yw rheoleiddio yn gweithio. Ni fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw rôl sy'n ymdrin â phryderon penodol – y gymdeithas dai dan sylw fydd yn gwneud hyn o hyd. Rydym wedi gofyn i TPAS nodi hynny'n glir fel nad oes gan denantiaid unrhyw ddisgwyliadau afrealistig.
Mae ein hadolygiad o werth am arian yn ei ail flwyddyn erbyn hyn. Mae'r mesurau gwerth am arian a gyflwynwyd gan gymdeithasau tai drwy'r cyfrifon byd-eang wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol fel sail ar gyfer trafodaethau sy'n canolbwyntio ar werth am arian rhwng staff y gymdeithas a'r Byrddau a'u rheolwr rheoleiddio a fydd, gobeithio, yn codi proffil gwerth am arian ledled y sector a'r ffocws arno. Gwyddom fod y sector wedi nodi'n glir bod safbwyntiau a gwerth cymdeithasol tenantiaid yn hanfodol i gael darlun cyflawn o werth am arian, ac rydym yn edrych ymlaen at ganfyddiadau'r gwaith sy'n cael ei wneud gan TPAS Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru ar y meysydd hyn, a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd maes o law drwy'r grŵp llywio Gwerth am Arian.
Cafodd ein cyfarfod ei gynnal y diwrnod ar ôl y drasiedi ofnadwy yn Nhŵr Grenfell. Er nad oedd digon o amser wedi mynd heibio i ystyried y goblygiadau yn fanwl, nodwyd y goblygiadau mawr posibl i'r sector. Mae angen i Fyrddau fod yn hyderus bod y sector yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, a nodwyd, fel mater o drefn, fod rheolwyr rheoleiddio yn gofyn am sicrwydd bod gwybodaeth iechyd a diogelwch allweddol wedi cael ei darparu, yn ogystal â sicrwydd o lefelau cydymffurfio presennol.
Cyfarfu'r Bwrdd Rheoleiddio hefyd â'r Gweinidog ym mis Mehefin er mwyn cyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol. http://gov.wales/docs/desh/publications/170731-regulatory-board-annual-report-2016-17-cy.pdf. Trafodwyd nifer o faterion, gan gynnwys y ffordd roedd y fframwaith newydd yn cael ei roi ar waith ledled y sector, y ffordd rydym yn ymgorffori ein dull newydd i sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd rheoleiddio, a thalu aelodau cymdeithas y Bwrdd.
Helen White (Cadeirydd)
Bwrdd Rheoleiddiol Cymru