Nodyn Briffio Bwrdd Rheoleiddio Cymru, Rhagfyr 2017
Yn dilyn cyfarfod Bwrdd Rheoleiddio Cymry ym mis Rhagfyr mae Helen White, cadeirydd y Bwrdd, wedi paratoit nodyn briffio ar yr hyn a drafodwyd yr wythnos yma. Gellid canfod y nodyn isod.

Diolch i Tai Coastal am gynnal ein cyfarfod Bwrdd Rheoleiddiol ym mis Rhagfyr.
Unwaith eto, roedd deall y goblygiadau ar gyfer pob cymdeithas dai yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell yn uchel ar ein hagenda. Roedd yn hynod o ddefnyddiol cael clywed gan Ceri Doyle, Prif Weithredwr Cartrefi Dinas Casnewydd, a eglurodd i ni yr hyn y maent wedi'i wneud er mwyn cael y sicrwydd priodol o ran diogelwch tenantiaid. Dros 6 mis yn ddiweddarach, mae'r mater yn parhau i fod yn bwnc llosg ar lefel Bwrdd ac ar lefel Weithredol. Mae'n hanfodol nodi bod Ceri'n credu'n gryf bod llywodraethu corfforaethol dda yn allweddol i alluogi ymateb priodol. Clywsom hefyd am bwysigrwydd cyfathrebu â phob rhanddeiliad, yn enwedig tenantiaid.
Rwy'n gobeithio bod iechyd a diogelwch a chydymffurfiaeth yn dal yn uchel ar agenda eich sefydliad. Fel aelodau Bwrdd mae angen i chi ddeall y wybodaeth sicrwydd a dderbynnir a theimlo'n hyderus eich bod yn cael darlun cywir o berfformiad a meysydd y mae angen eu gwella. Fel aelod o fwrdd cymdeithas dai fy hun rwy'n gwerthfawrogi y gall hyn fod yn anodd. Byddwn hefyd yn argymell bod pob aelod o'r Bwrdd yn darllen yr adroddiad interim gan y Fonesig Judith Hackitt – Building a Safer Future – Independent Review of Building Regulations and Fire Safety https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/668832/Independent_Review_of_Building_Regulations_and_Fire_Safety_-_summary_accessible.pdf
Trafododd aelodau'r Bwrdd bwysigrwydd Fframweithiau Sicrwydd Byrddau cadarn y Bwrdd er mwyn galluogi aelodau Bwrdd i deimlo'n hyderus ynghylch y wybodaeth a gânt. Mae'r wybodaeth a gyflwynir i'r Byrddau'n hanfodol bwysig gan ei fod yn ffurfio'r sail ar gyfer gwneud penderfyniadau. Yn y flwyddyn sydd i ddod, bydd cynnydd yn y ffocws rheoleiddiol ar Fframweithiau Sicrwydd Byrddau felly byddwn yn annog aelodau Bwrdd i ofyn i'w timau Gweithredol pa gynlluniau sydd ar waith er mwyn sicrhau bod ansawdd data a fframweithiau sicrwydd yn cael eu hadolygu'n barhaus a'u gwella, neu, os nad oes gennych fframwaith yn barod, beth yw'r cynlluniau i gyflwyno un.
Rwyf wrth fy modd yn cadarnhau bod y Tîm Rheoleiddio wedi cyflwyno 34 o Ddyfarniadau Rheoleiddio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn gyflawniad gwych ac yn dyst i waith caled y tîm. Gan fod y fframwaith newydd wedi bod ar waith ers blwyddyn bellach rydym wedi, comisiynu adolygiad, fel y gwnaethom addo. Nodwyd bod rhai rhanddeiliaid o'r farn ei bod hi'n rhy gynnar i wneud y gwaith hwn. Byddwn yn parhau ar hyn o bryd ond bydd yr adolygiad yn 'ysgafn'.
Heriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y sector i fod yn fwy tryloyw. Mae'r Bwrdd yn cefnogi hyn yn llawn ac yn falch y gall rhanddeiliaid gael gafael ar ddata perfformiad a chost drwy wefan Llywodraeth Cymru maes o law. Bydd gallu cymharu gwybodaeth gyda chymdeithasau tai eraill yn galluogi rhanddeiliaid ac yn wir aelodau Bwrdd i ofyn cwestiynau am foddhad a chostau gwasanaethau. Mwy o fanylion i ddilyn.
Byddwch hefyd yn ymwybodol bod y setliad rhent wedi cael ei gytuno gan y Gweinidog. Mae'r Bwrdd yn gwerthfawrogi bod angen i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sicrhau cymaint o incwm â phosibl i gefnogi dyheadau ar gyfer buddsoddi a datblygu. Fodd bynnag gwnaethom drafod yr angen i Fyrddau fod yn ymwybodol o fforddiadwyedd rhentiau a'r effaith a gaiff cynyddu rhent ar denantiaid.
Mae'r gwaith ar yr adolygiad thematig o drefniadau llywodraethu yn datblygu'n dda. Edrychwn ymlaen at gyflwyno'r adolygiad yng nghynhadledd Llywodraethu Cartrefi Cymunedol Cymru ym mis Mawrth 2018. Mae'r Bwrdd wedi penderfynu y bydd ein hadolygiad thematig nesaf yn canolbwyntio ar denantiaid. Yn benodol rydym yn awyddus i ddeall sut y gallwn sicrhau y cedwir tenantiaid wrth wraidd rheoleiddio a gwneud penderfyniadau mewn cwmnïau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Edrychaf ymlaen at weld nifer ohonoch yn y Gynhadledd Llywodraethu mis nesaf
Helen White (Cadeirydd)
Bwrdd Rheoleiddiol Cymru