Pam y dylech fod yn siarad Gwerth am Arian
Mae canolbwyntio ar GaA yn hanfodol i arferion busnes cadarn, yn enwedig i'r landlordiaid cymdeithasol hynny lle mae eu prif incwm yn dod o rent a thaliadau gwasanaeth tenantiaid. Dylai sicrhau bod yr incwm hwn yn mynd ymhellach arwain at landlordiaid cymdeithasol yn cyflawni a hyd yn oed rhagori ar eu hamcanion: gwasanaethau o ansawdd, darparu mwy o gartrefi gwell, buddsoddi mewn cymunedau a chadw costau i lawr i denantiaid.
Am bob sgwrs am GaA, mae'n aml yn syndod bod llawer yn y sector yn ei chael hi'n anodd ei ddiffinio mewn gwirionedd! Rhowch chi gynnig arni nawr a cheisiwch gwblhau’r frawddeg hon: Gwerth am Arian yw…………………………….. Unrhyw lwc? Ymddengys ein bod oll yn meddwl ein bod yn gwybod beth mae'n ei olygu, ond nid yw GaA yn syml ym maes tai cymdeithasol: efallai ein bod yn defnyddio’r un iaith, ond yn golygu pethau gwahanol. Mae amrywiaeth o safbwyntiau gwerth a ddelir gan randdeiliaid gwahanol gan gynnwys tenantiaid.
Yn aml rydym yn meddwl am GaA o ran gwerthoedd mesuradwy, ariannol, costau, arbedion effeithlonrwydd a wnaed ac ati, a gallai hynny fod yn ddigon i gael ein pennau o'i gwmpas ar hyn o bryd. Ond pan fyddwch yn teimlo'n ddewr, a ddylech hefyd fod yn sôn am werthoedd eraill? Gwerth cymdeithasol; sgiliau; rhwydweithiau cymdeithasol; addysg; dyheadau; lles.
Beth bynnag yw eich diffiniad o GaA, a yw'ch tenantiaid wedi helpu i'w lunio? Ydych chi wedi rhoi amser i staff y landlord, tenantiaid a rhanddeiliaid eraill i ddiffinio beth mae gwerth a GaA yn ei olygu'n lleol?
Mae gan y tenantiaid eu hunain rôl wrth helpu landlordiaid cymdeithasol i ddiffinio, cyflwyno a dangos gwerth am arian. Gall Paneli Sgriwtini, Tenant Archwilwyr, grwpiau adolygu gwasanaeth a modelau eraill o ymgysylltu i gyd chwarae rhan yn hyn. Dylai hefyd fod rôl i denantiaid i fod yn orchmynnol a phenderfynol o ran sicrhau tryloywder ar GaA ac i gadw pwysau ar landlordiaid i ddarparu gwell GaA.
Mae llawer o landlordiaid yn edrych ar sut y gall tenantiaid fod yn rhan o'r GaA sy'n wirioneddol gadarnhaol. Nid yn unig y maent yn siarad am GaA ond yn ei wneud yn realiti ac yn bwysicaf oll maent yn dechrau cynnwys eu tenantiaid ynddo. Rwyf wedi clywed trafodaethau ffantastig wrth i mi gyflwyno ein modiwl hyfforddi 'Cyflwyniad i GaA'. Roedd yn amlwg bod tenantiaid 'yn deall neges GaA' ac yn awyddus i chwarae eu rhan. Os ydych wedi methu'r hyfforddiant cliciwch yma: http://bit.ly/2hu53ra
Mae landlordiaid eraill yn dal heb gymryd y cam i gynnwys tenantiaid mewn GaA, ac felly er mwyn eich helpu i fynd ar y siwrnai honno, isod rwyf wedi manylu '5 peth i feddwl amdanynt' wrth baratoi i gynnwys tenantiaid mewn GaA …….gobeithio y bydd yn helpu!
1. Strategaeth neu Ddatganiad GaA - mae tenantiaid a staff angen cael dealltwriaeth glir o’r hyn y mae’r sefydliad yn ei olygu gan GaA, sut y caiff ei gyflwyno a sut y bydd yn dangos bod GaA wedi'i gyflawni. Dylai'r strategaeth hefyd esbonio rôl tenantiaid a'u cylch gwaith wrth weithio gyda'r landlord i gyflwyno a thystiolaethu GaA
2. Diwylliant o natur agored a thryloywder – nid yw strategaeth yn ddigon i wneud iddo weithio. Bydd cynnwys tenantiaid mewn gwaith GaA yn gofyn am ymrwymiad ar lefel uwch ac mae'n golygu rhannu gwybodaeth am gostau, dadansoddi perfformiad a chymharu â landlordiaid eraill yn y sector. Mae angen i'r staff gael eu grymuso i rannu data GaA ac mae angen i drefniadau fod yn eu lle i ymateb i waith tenantiaid ar GaA.
3. Cyfathrebiad – felly nawr bod gennych y strategaeth a'ch diwylliant, mae'n bryd i chi feddwl am dryloywder a sut y byddwch yn cyfathrebu'r hyn yr ydych yn ceisio'i gyflawni o ran GaA a'r rôl y bydd tenantiaid yn ei chwarae. Hefyd, cynlluniwch gyfathrebu parhaus ar GaA, bydd hyn yn annog hyder bod GaA yn cael ei gyflwyno a bod tenantiaid wedi cyfrannu at hyn.
4. Gwnewch gynllun - fel rhan o strategaeth GaA eich sefydliad, dylech gynnwys cynllun mwy manwl yn amlinellu sut y bydd tenantiaid yn cymryd rhan mewn GaA. Meddyliwch am sut y gall tenantiaid: lunio gwasanaethau i ddarparu gwell GaA; monitro GaA; sgriwtineiddio GaA; tystiolaethu a sicrhau bod y landlord yn atebol wrth gyflawni amcanion busnes GaA.
5. Cefnogaeth i denantiaid - efallai y bydd gweithio tuag at GaA yn rhywbeth newydd i denantiaid a’r staff a fydd yn eu cefnogi. Nodwch pa sgiliau a hyfforddiant fydd eu hangen arnyn nhw. Ystyriwch ddefnyddio mentoriaid annibynnol i roi cyngor i denantiaid ac i’w cefnogi i gael llais cryf ar faterion GaA