Peidiwch â rhoi rhybuddion ar hysbysfyrddau

 

Peidiwch â rhoi rhybuddion ar hysbysfyrddau

Mae TPAS Cymru wedi cydnabod bod y ffordd y mae cymunedau a thenantiaid lleol yn derbyn gwybodaeth am wasanaethau lleol a gweithgareddau cymunedol yn newid, gyda symudiad i ffwrdd o ddarllen papurau newydd a chylchlythyrau lleol traddodiadol.  Yn ychwanegol, mae canfyddiad bod pobl yn gynyddol yn defnyddio dulliau cyfathrebu digidol a thechnoleg ddigidol newydd i gael gafael ar wasanaethau a dod o hyd i wybodaeth leol. Gyda llawer o landlordiaid cymdeithasol yn awyddus i ddefnyddio dulliau digidol i ddarparu gwybodaeth ac i denantiaid gael gafael ar wasanaethau, roedd gennym ddiddordeb mewn darganfod y canlynol: • Pa ddulliau y mae tenantiaid yn eu defnyddio i gael gwybod am wybodaeth leol. • Sut mae tenantiaid yn defnyddio technoleg ddigidol a gwasanaethau ar-lein ac ar gyfer pa ddibenion. 

I gael y ddealltwriaeth hon, dosbarthwyd arolwg gennym gan ddefnyddio ein cymuned arolwg Pwls Tenantiaid.

I gael y ddealltwriaeth yma bu i ni gylchredeg arolwg trwy ddefnyddio ein cymuned Pwls Tenantiaid. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn i weld os yw dulliau traddodiadol o ymgysylltu dal yn bwysig.