Dros yr ychydig wythnosau diwethaf rydw i wedi bod ar hyd a lled Cymru yn hwyluso ein Seminarau rhanbarthol ar Reoleiddio Cymdeithasau Tai.

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf rydw i wedi bod ar hyd a lled Cymru yn hwyluso ein Seminarau rhanbarthol ar Reoleiddio Cymdeithasau Tai.

Roedd nifer dda yn bresennol yn y digwyddiadau ac roedd cymysgedd dda o denantiaid, staff ac aelodau o fyrddau i gyd yn awyddus i glywed y newyddion diweddaraf am y Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Ocê, nid yw Rheoleiddio yn swnio fel y pwnc mwyaf diddorol, ond cafodd ei gyflwyno mewn arddull bachog a llawn gwybodaeth, ac o’r adborth gwerthuso, mae’r sesiynau yn sicr wedi gwneud i gynadleddwyr feddwl am eu Cymdeithas a’u rôl eu hunain. Fel y dywedodd rhywun ar Twitter “you helped make a very dry topic interesting and really informative”. Roedd cael Rheolwyr Rheoleiddio Llywodraeth Cymru yn siarad ym mhob digwyddiad yn gyfle i’r cynrychiolwyr gael golwg go iawn ar sut mae rheoleiddio yn gweithio’n ymarferol, ac yn gyfle i gael clywed am y canfyddiadau cyffredinol o weithgarwch rheoleiddio ar draws Cymru.

Mewn sesiwn ar Reoleiddio nid oeddem yn gallu peidio â siarad am y risgiau sy’n wynebu Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Y dirwasgiad economaidd, toriadau ar gyllid y llywodraeth, diwygio lles ac yn awr Brexit – nid yw’r amgylchedd gweithredu erioed wedi bod mor gythryblus a bydd yn parhau i fod felly am beth amser….. mae’n ddigon i wneud i chi beidio â bod eisiau codi o’r gwely yn y bore! Fodd bynnag, ni ddylai rheoli risg gael ei ystyried yn hollol fel diwedd y byd sy’n digalonni Cymdeithasau Tai rhag ymgymryd â rhai gweithredoedd. Wrth nodi risgiau, gall cyfleoedd newydd godi i Gymdeithasau Tai i’w hystyried, gydag atebion arloesol yn aml yn dod i’r amlwg o ddealltwriaeth drwyadl o risgiau sy’n wynebu’r busnes a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd Cymdeithasau Tai yn dod o hyd i ffyrdd newydd i gefnogi ei hunain ac esblygu i oresgyn risgiau, ond dylent bob amser yn aros yn ffyddlon i’w cenhadaeth gymdeithasol craidd: darparu cartrefi ar gyfer pobl mewn angen.

Mae swyddogaeth rheoli risg gan amlaf yn syrthio ar aelodau’r bwrdd a’r Pwyllgor Gwaith, ond yn gyffredinol heb fewnbwn tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a phreswylwyr. Fodd bynnag, nid oes unrhyw un mewn sefyllfa well na’r rhai sy’n byw mewn cymunedau a chartrefi Cymdeithasau Tai i helpu i nodi risgiau cymunedol a gwasanaeth, y gall byrddau da weithiau eu methu. Yn ystod ein seminarau cafodd cynrychiolwyr gyfle i nodi risgiau lleol a sector eang, a do, daeth y prif rai i’r golwg: diwygio lles, yr economi, ond nododd y tenantiaid risgiau eraill, llawer yn berthnasol i’w cymunedau: chwalfa mewn cydlyniant cymunedol, isadeileddau gwledig tlawd, toriadau i wasanaethau cefnogi lleol hanfodol, gorddibyniaeth ar wasanaethau digidol a dirywiad cyffredinol y gymuned.

Wrth nodi a rheoli risgiau, dylai Cymdeithasau Tai archwilio ffyrdd o gynnwys tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a phreswylwyr. O’r holl randdeiliaid, ganddyn nhw mae’r diddordeb mwyaf. Gall eu cartrefi, eu gwasanaethau a hunaniaeth eu landlord fod yn y fantol; erbyn yr amser pan fo pethau’n mynd o chwith, yn aml iawn does dim llawer o siawns i’w lleisiau gael eu clywed.

David Lloyd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol, TPAS Cymru
E-bost: [email protected]
Twitter: @DavidTheLloyd