Ar 18 Rhagfyr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru setliad polisi rhent pum mlynedd sy'n rhoi mwy o sicrwydd i'r sector ac i ryw raddau, i denantiaid.

Ar 18 Rhagfyr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru setliad polisi rhent pum mlynedd sy'n rhoi mwy o sicrwydd i'r sector ac i ryw raddau, i denantiaid. Dilynwch y ddolen hon i ddarllen ein datganiad llawn:

Rydym yn croesawu datganiad y Gweinidog ar y setliad polisi rhent ac yn cydnabod y bydd cyfnod rhent 5 mlynedd yn rhoi mwy o sicrwydd i'r sector, ac i ryw raddau, i denantiaid.

Er ein bod yn credu y bydd defnyddio arolygon bodlonrwydd tenantiaid yn fuddiol at ddibenion craffu, mae tenantiaid angen mwy o dryloywder a chyfranogiad wrth wneud penderfyniadau strategol ehangach.

Yn benodol, os codir ffi ar denantiaid ar gyfradd uwch na'r lefelau CPI cyfredol, yna mae'n rhaid rhoi llais llawer cryfach i denantiaid yn y broses o wneud penderfyniadau i benderfynu pa werth am arian y gallant ei ddisgwyl wrth dalu'r cyfraddau uwch hyn. Hoffem weld ymrwymiad cryfach gan bob landlord cymdeithasol i sicrhau bod barn tenantiaid yn cael ei hadlewyrchu mewn penderfyniadau gosod rhent ac mewn penderfyniadau ar lefelau taliadau gwasanaeth.  Mae llawer o denantiaid yn dweud wrthym fod hyn yn peri pryder cynyddol o ran fforddiadwyedd.

Byddem hefyd yn croesawu cyhoeddi datganiadau gwerth am arian penodol sy'n cyfiawnhau unrhyw godiadau rhent a thaliadau gwasanaeth, gan alluogi tenantiaid i herio a dwyn eu landlord i gyfrif am wasanaethau y maent yn talu amdanynt - rhywbeth y cyfeirir ato yn adroddiad yr Adolygiad Tai Fforddiadwy.

Rydym yn cefnogi ymrwymiad y Gweinidog i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel a safonau gofod GAD ar draws deiliadaeth ac yn teimlo bod hyn yn ymrwymiad mawr ei angen ar gyfer tenantiaid yn y sector rhentu preifat yn ogystal â'r rheini mewn tai cymdeithasol. Yn yr un modd, bydd y dyhead y bydd yr holl dai newydd, waeth beth fo'u deiliadaeth, yn cyflawni Tystysgrif Perfformid Ynni ac yn lleihau tlodi tanwydd ac yn galluogi tenantiaid i ffynnu yn eu cartrefi gan sicrhau Cymru fwy cynaliadwy.