Wrth i Eleanor Speer ymuno â TPAS Cymru'r wythnos diwethaf, mae'n amlinellu ei nodau a sut bydd ei chefndir yn cryfhau'r tîm.

TPAS Cymru yn cryfhau ei sgiliau ymgysylltu cymunedol gydag Eleanor Speer yn ymuno â'r tîm

Wrth i Eleanor Speer ymuno â TPAS Cymru'r wythnos diwethaf, mae'n amlinellu ei nodau a sut bydd ei chefndir yn cryfhau'r tîm.

Mae wedi bod yn ddechrau gwych i’r wythnos wrth i mi ymuno â thîm TPAS Cymru. Rwyf wedi cael y cyfle i gwrdd â’r tîm cyfan ac wedi cael croeso gwych gan Gadeirydd y Bwrdd, Bill Hunt, a’r Is-Gadeirydd, Emma Parcell - rhywun yr wyf yn ei hadnabod o fy nghyfnod ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

O ran fy nghefndir, rwyf ar hyn o bryd yn gorffen fy ngradd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus. Mae fy ymchwil yn archwilio ymgysylltiad cymunedol, cyfranogiad, cyd-gynhyrchu a dinasyddiaeth. Mae hyn wedi fy ngalluogi i feithrin dealltwriaeth gref a chynhwysfawr o sut mae ein cartrefi a’n cymunedau’n bileri hollbwysig yn ein lles, ynghyd â deall pwysigrwydd llais yr unigolyn – a’r angen i adeiladu polisi mewn ymgynghoriad â’r union aelodau o’n cymdeithas mae'n effeithio.

Er fy mod wedi fy lleoli y rhan fwyaf o'r amser yn ein swyddfa yn ne Cymru, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda thenantiaid ac aelodau ar draws Cymru gyfan. Rwyf wedi llwyddo i ddechrau arni’n syth yr wythnos hon wrth i ni gynllunio rhai o’n digwyddiadau cyffrous ar gyfer 2022 lle rwy’n gobeithio cyfarfod â llawer ohonoch, ac rwyf hefyd wedi cael cyfle i deithio i gwrdd â’n tîm yng ngogledd Cymru.

Pan nad ydw i’n brysur yn y gwaith rydw i wrth fy modd yn darganfod cerddoriaeth newydd, archwilio arfordir prydferth Cymru a helpu fy uned Brownis leol.

Os na allwch ddod i unrhyw un o'n digwyddiadau neu os hoffech siarad â mi ymlaen llaw, mae croeso i chi gysylltu. Edrychaf ymlaen at gwrdd â llawer ohonoch yn fuan gobeithio!

E-bost: [email protected]

Trydar: https://twitter.com/EleanorTPAS

Facebook: Eleanor Tpas-Cymru | Facebook