Helen White yw Cadeirydd Bwrdd Rheoleiddio Cymru sy’n archwilio perfformiad a gweithgaredd rheoleiddiol Llywodraeth Cymru a'r sector tai yng Nghymru. Mae Helen wedi recordio fideo unigryw i TPAS Cymru i roi gwybod i denantiaid cymdeithasau tai yr hyn y bydd y Bwrdd yn canolbwyntio arno eleni a sut y gall tenantiaid ddylanwadu a siapio gwaith y Bwrdd.

TPAS Cymru yn dod â post byw Facebook gyntaf i chi:

Helen White yw Cadeirydd Bwrdd Rheoleiddio Cymru sy’n archwilio perfformiad a gweithgaredd rheoleiddiol Llywodraeth Cymru a'r sector tai yng Nghymru. Mae Helen wedi recordio fideo unigryw i TPAS Cymru i roi gwybod i denantiaid cymdeithasau tai yr hyn y bydd y Bwrdd yn canolbwyntio arno eleni a sut y gall tenantiaid ddylanwadu a siapio gwaith y Bwrdd. Gwrandewch ar yr adeg a nodir isod ac ymunwch â’r ddadl - gallwch roi sylwadau, hoffi a rhannu.  

 

Pryd? Caiff ei ddarlledu ar Facebook ddydd Llun 28 Ionawr

  • Yn y Gymraeg: 12.00pm.
  • Yn Saesneg: 12.30pm

 

Os ydych yn dilyn TPAS Cymru ar Facebook nid oes rhaid i chi wneud dim o flaen llaw - bydd Facebook yn eich hysbysu ac yn rhoi dolen i glicio arno i chi gael ymuno.  Noder: Mae Helen yn siaradwr Cymraeg ac wedi recordio ei neges yn y ddwy iaith.

 

Ar ôl y digwyddiad yma, bydd y fideo ar gael i’w weld unrhyw adeg ar Facebook a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill.

 

Pwynt olaf:

Dim ar Facebook? Dim problem - bydd y fideos ar gael ar sianel YouTube TPAS Cymru o 12.45pm dydd Llun - bydd y ddolen hon yn mynd â chi'n syth i'n Sianel YouTube - nid oes angen i chi fod yn aelod, tanysgrifio na defnyddio unrhyw gyfrineiriau na mewn gofnodi. 

 

Hefyd, os hoffech gopi o’r fideo i ddangos mewn cyfarfodydd tenantiaid ac ati, yna rhowch wybod i ni ac fe allai anfon copi atoch.

 

Ymunwch â thenantiaid eraill o dai Cymru dydd Llun 28 Ionawr ac ymunwch â’r drafodaeth.