Y Gweinidog yn gwneud penderfyniad ar argymhellion yr Adolygiad Tai Fforddiadwy.

 

Y Gweinidog yn gwneud penderfyniad ar argymhellion yr Adolygiad Tai Fforddiadwy.

 

Fel y gŵyr llawer ohonoch, mae TPAS Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn yr Adolygiad ar y Cyflenwad o Dai Fforddiadwy i sicrhau bod tenantiaid yn cael dweud eu dweud wrth lunio'r argymhellion.

Ddoe, rhoddodd y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Julie James AC, ei hymateb i'r argymhellion, sy'n golygu y gallwn yn awr ddechrau'r broses o'u gweithredu.

Cefnogwyd pob un ond un o'r argymhellion gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys setliad rhent pum mlynedd i roi mwy o eglurder a sicrwydd i denantiaid a landlordiaid. Bydd yr hyn y bydd y setliad yn edrych fel mewn gwirionedd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Gorffennaf 2019; rydym yn gobeithio bod y Gweinidog yn rhoi rhywfaint o eglurhad o ystyr 'fforddiadwyedd' yn  sector tai Cymru. Nododd yr argymhellion nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi unrhyw beth dros y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD), + 1% (Byddaf yn ymhelaethu ar beth mae hyn yn ei olygu unwaith y bydd y gweinidog wedi gwneud y cyhoeddiad).

Ymhlith yr argymhellion eraill a dderbyniwyd oedd:

  • Pob tŷ i'w gael ei adeiladu i'r un safonau p'un a ydych mewn tai cymdeithasol neu dai preifat
  • Datblygu gwaith partneriaeth gyda chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol gyda chefnogaeth dull newydd o gyllid grant
  • Datblygu strategaeth newydd i ehangu'r defnydd o weithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu modern i ddarparu cartrefi sydd bron yn ddi-garbon
  • Ystyried sefydliad hyd braich i reoli a chynllunio'r defnydd o dir y sector cyhoeddus
  • Awdurdodau lleol i gael gafael ar grant tai i sicrhau eu bod yn gallu adeiladu mwy o dai cyngor yn gyflym.

Nid oedd unrhyw argymhellion penodol yn ymwneud â chyfranogiad tenantiaid, ond fel y gŵyr llawer ohonoch, lansiwyd adolygiad Tenantiaid wrth Wraidd yn ddiweddar; gydag enw newydd Y Pethau Iawn – Clywed Llais y Tenantiaid. Yma yn TPAS Cymru, byddwn yn gweithio gyda chi a'ch landlordiaid i helpu i roi'r canfyddiadau hyn ar waith i helpu i sicrhau bod tenantiaid yn chwarae rhan gyfartal mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Roeddem yn falch o weld yr addewid i ddatblygu cartrefi carbon isel gan ein bod yn teimlo bod hwn yn ymrwymiad sydd wir ei angen ar gyfer yr argyfwng amgylcheddol yr ydym yn ei wynebu, ac mae'n gwbl hanfodol er mwyn i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn ffynnu.

Os ydych eisiau clywed mwy am yr adolygiad Tenantiaid wrth Wraidd, cofrestrwch yma i ymunwch â gweminar David Lloyd dydd Iau 11 Gorffennaf.