Y pethau i mi eu dysgu wrth gychwyn sefydlu grŵp Facebook
Pam sefydlu grŵp Facebook?
Yn ogystal â'r ffaith bod Facebook yn ffordd wych o dyfu cymunedau, gwerthu cynhyrchion a chreu ymwybyddiaeth; mae yna hefyd ffyrdd i'w ddefnyddio i leihau gwastraff. Un bore yn eistedd yn y swyddfa, dechreuodd David (ein Prif Weithredwr) drafod yr holl bethau yr oedd pobl yn eu rhoi am ddim ym Mhenarth trwy grŵp Facebook ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn syniad gwych.
Wrth fy mod yr hynaf o 6 o blant, nid oedd unrhyw beth yn mynd yn wastraff yn tŷ ni, pasiwyd dillad i lawr nes bod fy mrodyr a'm chwiorydd iau yn gwisgo siwmperi wedi gwisgo allan yn arw (yr unig fudd o fod y plentyn hynaf). Bob man fyddai'n edrych, mae'n ymddangos bod biniau rhoddion yn gorlifo â dillad ac yn ôl Dr Andrew Brooks yn ei lyfr ‘Clothing Poverty’, mae cryn dipyn o’r dillad a roddir yn cael eu masnachu dramor am elw. Wrth gwrs, y dybiaeth gyffredin ymhlith pobl sy'n rhoi yw ei bod yn mynd i elusen, ond mae'n ymddangos nad yw hyn yn wir.
Gyda hynny mewn golwg, penderfynais ddechrau grŵp Facebook ‘Cardiff Reuse Group’. Nod y dudalen hon yw rhoi cyfle i bobl ailgylchu ac ailddefnyddio; gyda rheolau penodol na ellir gwerthu nac ail-werthu unrhyw beth sy'n cael ei roi.
Sut y gwnes i ei sefydlu
Y gwir amdani yw, nid wyf y person mwyaf galluog o ran technoleg ddigidol, felly yn dilyn chwiliad google cyflym, cefais fy synnu ar yr ochr orau o weld pa mor hawdd oedd hyn.
-
Dilynais Ganllawiau cam wrth gam Facebook
-
Yna, creu delwedd brand drwy ddefnyddio Canva . Nid oes angen i chi wneud hyn ond mae'n rhad ac am ddim ac yn gwneud iddo edrych ychydig yn fwy proffesiynol yn fy marn i.
-
Newidiais y gosodiadau fel ei fod yn grŵp preifat lle bod angen i chi gael eich cymeradwyo i ddod yn aelod. Roedd hyn er mwyn sicrhau nad oedd pobl yn byw'n rhy bell i ffwrdd o Gaerdydd, neu fel arall byddai llawer o gostau teithio a phostio, ac roeddwn yn teimlo y byddai hyn yn mynd yn groes i ddiben y grŵp.
-
Gwahoddais bobl i ymuno â'r grŵp. Yn gyntaf, fy ffrindiau ac yna fe wnes i ei bostio ar grŵp Mamau Caerdydd a grŵp Rhiant Sengl Cymru.
Beth ddigwyddodd nesaf?
O fewn 3 awr cefais 300 o geisiadau i ymuno â’r grŵp. Yn amlwg, mae hyn yn swnio'n wych, ond wnes i ddim meddwl faint o amser ac egni a fyddai'n ei gymryd. Roeddwn yn gyson ar fy ffôn yn cymeradwyo neu'n gwrthod pobl. Yn bendant, doeddwn i ddim wedi meddwl y peth drwyddo yn iawn ac wrth fyfyrio, dylwn fod wedi cael ffrind i rannu'r cyfrifoldeb gweinyddol. Yna ystyriais yr angen am rai rheolau, nad oeddwn wedi meddwl amdanynt eto. Cefais gip ar grŵp Penarth yr oedd David wedi sôn wrthyf amdano a chopïo eu rheolau gan eu bod yn amlwg yn gwybod eu stwff - yn wahanol iawn i mi.
Rhyw awr yn ddiweddarach, cefais neges breifat gan un o’r weinyddwyr grŵp Penarth a oedd yn anhapus iawn gyda’r ffaith fy mod i wedi copïo eu syniad yn y bôn (wps). Fy nadl i oedd ein bod ni i gyd eisiau'r un peth felly a oes ots pwy sy'n cymryd perchnogaeth? Dwi ddim yn credo hynny. Ond rhywbeth i feddwl amdano cyn cychwyn grŵp eich hun. Os ydych chi'n mynd i ddefnyddio syniad rhywun arall, efallai gwiriwch gyda nhw yn gyntaf oherwydd efallai bod ganddyn nhw rai awgrymiadau i'w rhannu gyda chi
I gychwyn ar yr holl broses ‘ailddefnyddio ac ailgylchu’, postiais rai o deganau fy merch yn y grŵp - rhai yr oeddwn wedi bwriadu mynd â nhw i siop elusen. O fewn munudau gofynnodd athro ysgol a allai hi eu cael ar gyfer yr ysgol gan fod y cyllid yn isel iawn ar gyfer prynu teganau newydd. Casglodd hi nhw'r penwythnos canlynol o fy nghartref.
Er mawr syndod i mi, dechreuodd y grŵp bostio eitemau nad oeddent eu heisiau mwyach. Pethau fel, soffas, gwelyau, pramiau; mae'r rhestr yn mynd ymlaen. Erbyn hyn mae bron i 500 o aelodau yn y grŵp, ac nid wyf i'n gorfod gwneud llawer iawn i sicrhau ei fod yn weithredol. Rydw i wedi postio deirgwaith i ddweud helo, diolch ac i amlinellu'r rheolau. Nid oes gennyf unrhyw syniad pa mor hir y bydd yn weithredol nac os fyddai'n wynebu mwy o heriau, ond fe wnâf ddelio â hynny pan ddaw.
Pwyntiau i’w nodi
Os ydych chi'n ystyried sefydlu grŵp eich hun, fy awgrymiadau o fy mhrofiadau fy hun yw:
-
Gwnewch eich ymchwil: mae hyn yn rhywbeth dwi'n teimlo fy mod wedi ei fethu. Ni chafodd effaith enfawr ond pe bawn i wedi ymchwilio, byddwn wedi osgoi anghytundeb gyda'r grŵp arall ac wedi sylweddoli fy mod angen gweinyddwr arall i rannu'r llwyth gyda.
-
Rhannwch y llwyth: Fel y soniais, roedd gen i fewnlifiad o bobl i'w cymeradwyo o fewn yr ychydig oriau cyntaf na feddyliais i amdanynt mewn gwirionedd. Fe allech chi sefydlu grŵp agored nad oes angen iddo gymeradwyo pobl, ond mae'n dibynnu ar y diben.
-
Peidiwch â mynd i drafodaeth â phobl sy'n anghwrtais neu'n ymosodol: Yn anffodus, mae rhai pobl yn gas yn fwriadol ac yn gwneud unrhyw beth i darfu ar y grŵp. Mae yna ffyrdd y gallwch chi geisio osgoi'r risg y byddan nhw'n dod i mewn i'r grŵp fel gofyn cwestiynau penodol cyn iddynt ymuno ond weithiau gallent ddod o hyd i ffordd i mewn yr un fath. Gall eu sylwadau fod yn hynod anghwrtais a niweidiol felly'r peth gorau y gallwch chi ei wneud yw eu rhwystro. Unwaith eto, mae hyn yn cysylltu'n ôl â'r awgrym blaenorol sef y gall cael mwy nag un gweinyddwr helpu. Gallant hefyd weithredu fel cymedrolwr yn y sefyllfaoedd hyn.
-
Byddwch yn bwyllog, yn bendant ac yn gadarn: nid wyf wedi gorfod gwneud hyn mewn gwirionedd gan nad wyf wedi wynebu unrhyw anghytundebau o fewn y grŵp, ond wedi siarad â phobl sydd wedi bod trwy hyn, maent wastad yn pwysleisio hyn. Os oes rheolau teg a synhwyrol ar waith, yna dim ond cadw atynt sydd angen.
-
Os allai i wneud hyn, gallwch chithau hefyd: Fel y soniais, fi yw'r person lleiaf technegol, ond dwi wedi llwyddo i wneud hyn sy'n golygu y gallwch chithau hefyd. Beth yw'r gwaethaf a all ddigwydd?