Y Pethau Iawn – Gwella trefniadau llywodraethu cymdeithasau tai yng Nghymru
Ym mis Mawrth 2018 fe wnaeth Bwrdd Rheoleiddiol Cymru (BRC) gyhoeddi: Y Pethau Iawn – Gwella trefniadau llywodraethu cymdeithasau tai yng Nghymru. Diben y BRC yw archwilio perfformiad rheoleiddio Llywodraeth Cymru, ac i gynghori'r Gweinidog ar berfformiad y sector cymdeithasau tai yn ei chyfanrwydd. Mae’n gwneud hyn drwy ystyried adroddiadau blynyddol wrth y Tîm Rheoleiddio a dogfennau eraill ar berfformiad y sector. Mae’r BRC yn defnyddio’r wybodaeth yma i gynghori’r Gweinidog ar berfformiad y Tîm Rheoleiddio, y sector ac am unrhyw oblygiadau polisi.
Fel rhan o’i gwaith fe wnaeth y BRC arolwg o trefniadau llywodraethu cymdeithasau tai yng Nghymru. Fe wnaeth yr arolwg yma edrych ar sut mae trefniadau llywodraethu o fewn y sector dai wedi datblygu yng Nghymru ers cyhoeddi arolygiad mawr yn 2013, ac i ystyried sut y gallai’r sector ddatblygi ym mhellach yn y dyfodol. Yn dilyn yr arolygiad yma fe wnaeth BRC gyhoeddi adroddiad. Mae’r adroddiad, Y Pethau Iawn – Gwella trefniadau llywodraethu cymdeithasau tai yng Nghymru ar gael yma, tra bod rhagor o ddogfennau sy’n ymwneud a’r gwaith ar gael drwy glicio yma.