Ydych chi’n denant y SRhP? Ydych chi eisiau gwybod y diweddariadau deddfwriaethol ar gyfer 2018 a beth fydd yn newid yn 2019? Darllenwch ein diweddariad diweddar.

 

Ydych chi yn denant y SRhP? Ydych chi eisiau gwybod y diweddariadau deddfwriaeth ar gyfer 2018 a’r hyn sydd am newid yn 2019? Darllenwch ein diweddariad diweddaraf.

Diweddariadau Deddfwriaeth 2018

  • Ar ddechrau'r flwyddyn hon, roedd newid i bolisïau taliadau electronig yng Nghymru. Mae hyn yn golygu pan fyddwch chi'n talu trwy ddefnyddio dulliau talu electronig (cardiau debyd a chredyd, PayPal, taliadau ffôn) ni allwch dderbyn is-dâl mwyach.

 

  • Ym mis Ebrill 2018 cafodd y Safon Effeithlonrwydd Ynni Isafswm ei weithredu ac mae'n rhaid cydymffurfio â hyn ar gyfer pob tenantiaeth newydd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i eiddo gael Tystysgrif Perfformiad Ynni ac os yw’r radd yn disgyn o dan E, ni ellir ei brydlesu i denantiaid. Mae hyn hefyd yn berthnasol i denantiaid sy'n ymestyn neu'n adnewyddu tenantiaethau presennol.

 

  • Ym mis Ebrill 2018 gorfodwyd Gorchymyn Gwahardd a oedd yn golygu y byddai landlordiaid neu asiantaethau gosod tai a oedd wedi dadfeddiannu tenant neu wedi aflonyddu ar denant, yn derbyn gorchymyn gwahardd. Yna byddant yn cael eu hychwanegu at gronfa ddata cenedlaethol ac yn methu â rhentu eiddo am isafswm o flwyddyn.

 

  • Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Ym mis Mai 2018, the newidiodd y Llywodraeth ei reolau ynghylch diogelu data a oedd yn golygu bod yn rhaid i landlordiaid ac asiantaethau gosod tai archwilio a diogelu gwybodaeth bersonol yn seiliedig ar ganiatâd tenantiaid. Mae hyn yn ffordd o ddiogelu tenantiaid trwy sicrhau bod gan landlordiaid bolisïau i fonitro'r wybodaeth sydd ganddynt ac am ba mor hir y mae ganddynt.

 

Beth i’w ddisgwyl yn 2019

 

  • Ym mis Mehefin 2018, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd hyn yn dileu nifer o ffioedd asiantaethau gosod tai. Yr unig daliadau y gall asiantaethau ofyn amdanynt yw rhent, blaendal diogelwch a blaendal taliad o un wythnos o rent. Bydd gofyn i chi hefyd dalu am unrhyw daliadau hwyr neu'r gost o brynu allwedd ar goll. Pleidleisiwyd ar y Bil i'r cam deddfwriaethol nesaf ym mis Tachwedd. 

Gweler yma i ddarllen mwy am y Bil.

 

  • Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn effeithio ar bob tenantiaeth yng Nghymru. Bydd y Ddeddf yn mynnu bod landlordiaid yn ysgrifennu datganiad i'w tenant sy'n nodi'n glir beth yw hawliau a chyfrifoldebau'r landlord a'r tenant; er bod tenantiaid yn cael eu galw'n 'ddeiliaid contract' yn y Ddeddf.  Mae’r Ddeddf hefyd yn:
  • Anelu i fynd i'r afael â dadfeddiannu sy'n deillio o denantiaid sy'n cwyno am gyflwr eu cartref. 
  • Caniatáu i denantiaeth barhau ar gyfer tenantiaid sy'n aros mewn eiddo pan fydd cyd-denant yn gadael y contract
  • Targedu troseddwyr cam-drin domestig i'w dadfeddiannu i helpu atal yr unigolyn sy’n cael eu cam-drin rhag dod yn ddigartref.

Nid yw'r sector eto wedi derbyn dyddiad gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Os hofech ddarllen mwy am y Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), cliciwch yma.