Mae nifer o argymhellion wedi'u gwneud ynghylch sut y gallai'r sector tai wella ei berfformiad wedi tân tŵr Grenfell, er mwyn sicrhau na fydd digwyddiadau mor erchyll byth yn digwydd eto. Mae'r blog yma yn edrych ar un o'r argymhellion sydd wedi ei gwneud, yr argymhelliad i ymestyn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gymdeithasau tai

Ymateb i Grenfell – Ymestyn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gymdeithasau tai

Image result for grenfell tower

Ychydig fisoedd ymlaen ac mae'r digwyddiad trychinebus yn Nhŵr Grenfell yn parhau i fwrw cysgod mawr dros sector tai y DU. Mae nifer o argymhellion eisoes wedi'u gwneud ynghylch sut y gallai'r sector tai wella ei berfformiad er mwyn sicrhau na fydd digwyddiadau mor erchyll byth yn digwydd eto. Er bod llawer o'r argymhellion hyn eisoes wedi cael eu gweithredu (er enghraifft, profi cladin) mae eraill yn debygol o fod yn anoddach i'w gweithredu. Gwnaethpwyd un argymhelliad o'r fath yn ddiweddar gan Gomisiynydd Gwybodaeth y DU.

Ar 2 Awst, bu i Elizabeth Denham, Comisiynydd Gwybodaeth gyhoeddi blog yn annog landlordiaid cymdeithasol i ddatgelu mwy o wybodaeth diogelwch tân yng ngoleuni'r digwyddiad yn Grenfell. Mae ei galw am fwy o ddidwylledd a thryloywder yn y sector tai cymdeithasol yn adleisio'r argymhelliad diweddar a wnaed gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol, ac mae'n debyg y bydd llawer o denantiaid yn eu croesawu. Er y bydd landlordiaid cymdeithasol yn siŵr o groesawu argymhelliad Denham trwy rannu mwy o wybodaeth am ddiogelwch tân, mae argymhelliad arall a wneir gan y Comisiynydd Gwybodaeth yn debygol o fod yn fwy problemus i'r sector tai cymdeithasol.

Yn ei blog, mae Denham yn nodi gwahaniaeth pwysig rhwng cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol (cynghorau). Tra bod awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, nid yw.n wir am gymdeithasau dai. Mae gan y gwahaniaeth hwn ganlyniadau pwysig. Mae'n ofynnol i sefydliadau sy'n ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth gydymffurfio â dau ofyniad. Ar un llaw, mae'n ofynnol iddynt gyhoeddi gwybodaeth benodol ac i'w gwneud yn gyhoeddus. Ar y llaw arall, gellir cysylltu â hwy gan aelodau o'r cyhoedd a all ofyn i wybodaeth benodol gael eu rhannu â hwy. Felly, mae gan denantiaid awdurdodau lleol gwell mynediad at wybodaeth am y ffordd y mae eu landlord yn gweithredu ac yn perfformio nag sydd gan denantiaid cymdeithasau tai.

Mae Elizabeth Denham yn credu bod y ffaith bod awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth tra nad yw cymdeithasau tai yn, yn creu bod  “bwlch sylweddol yn hawl y cyhoedd i wybod.”  Mae felly wedi penderfynu y bydd yn rhoi argymhelliad i Senedd San Steffan, gan nodi y dylent ymestyn y ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth i gynnwys cymdeithasau tai. Gallai gweithredu'r argymhelliad hwn fod yn anodd.

Mae'n debygol y bydd unrhyw estyniad o Ryddid Gwybodaeth i gymdeithasau tai yn wynebu gwrthwynebiad cryf. Byddai'r rhai sy'n gwrthwynebu'r argymhelliad yn dadlau y bydd ymestyn deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth i gymdeithasau tai yn rhoi mwy o bwysau ar eu hadnoddau. Byddai'n rhaid i gymdeithasau tai dreulio amser ac arian, casglu a chyhoeddi data fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth. Byddai rhai yn dadlau mai dyma amser ac arian y gellid eu defnyddio fel arall ar gyfer darparu gwasanaethau i denantiaid neu ar adeiladu cartrefi newydd. Efallai y bydd eraill yn dadlau, fodd bynnag, bod hwn yn bris sy'n werth ei dalu, gan sicrhau tryloywder yn y sector ac i wneud cymdeithasau tai yn atebol am eu gweithredoedd. Mae her arall, fodd bynnag, yn debygol o ddarparu maen tramgwydd llawer mwy.

Fel y dogfennwyd yn dda, mae cymdeithasau tai ym mhob un o bedair gwlad y DU yn ddiweddar wedi cael eu hail-ddosbarthu fel rhan o'r sector cyhoeddus gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae'r penderfyniad wedi cael effaith sylweddol ar y sector cymdeithasau tai. O ganlyniad i benderfyniad y SYG, trosglwyddwyd benthyca cymdeithasau tai i'r fantolen gyhoeddus, ac mae pryderon ynghylch a fydd cymdeithasau tai yn parhau i allu cael gafael ar gyllid y sector preifat i'r un graddau ag sydd wedi bod yn digwydd yn hanesyddol. O ystyried y canlyniadau arwyddocaol hyn, nid yw'n syndod bod y Llywodraethau yn San Steffan, Belfast, Caeredin a Chaerdydd wedi cymryd camau i geisio gwrthdroi'r penderfyniad hwn ac i ddychwelyd cymdeithasau tai i'r sector preifat.

Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi deddfu deddfwriaeth sydd wedi gweld rheolaeth y Llywodraeth dros gymdeithasau tai yn lleihau. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi diwygio'r fframwaith rheoleiddiol ar gyfer cymdeithasau tai yn ddiweddar, (yn rhannol oherwydd penderfyniad y SYG) ac yn bwriadu deddfu deddfwriaeth a fydd yn diwygio'r sail statudol ar gyfer rheoleiddio. Mewn amgylchedd lle mae awydd i leihau rheolaeth y llywodraeth dros gymdeithasau tai, er mwyn gwrthdroi penderfyniad y SYG, mae'n annhebygol y byddai Llywodraeth y DU yn barod i ddeddfu deddfwriaeth a fyddai'n gweld y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei ymestyn, ac felly yn arwain at fwy o reolaeth llywodraeth dros gymdeithasau tai.

Bydd TPAS Cymru yn cadw llygad fanwl ar y ddadl hon wrth iddi ddatblygu dros y misoedd nesaf, a byddwn yn gweithio i sicrhau bod ein haelodau a'n tenantiaid ledled Cymru yn cael eu diweddaru ar sut mae'r ddadl yn mynd yn ei blaen. Gadewch i ni wybod beth yw eich barn drwy gysylltu â ni ar [email protected]