Mae Llywodraeth Cymru eisiau i chi leisio barn ynghylch dogfen drafft y bydd landlordiaid cymdeithasol yn ei hanfon at denantiaid os daw’r Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) i rym.

Ymgynghoriad ar ddogfen drafft 'Gwybodaeth i denantiaid landlordiaid cymdeithasol' - Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 

 

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i chi leisio barn ynghylch dogfen drafft y bydd landlordiaid cymdeithasol yn ei hanfon at denantiaid os daw’r Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) i rym. Maent yn ymgynghori ar ddogfen enghreifftiol i weld:

  • a yw’n crynhoi’n glir yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael
  • a yw’n esbonio’n glir pryd y gallai’r hawliau hyn ddod i ben
  • a yw’n esbonio’n glir y cyngor ariannol a chyfreithiol y dylech ei gael pe baech am ymarfer yr hawl i brynu neu’r hawl i gaffael.

 

Sut i Ymateb

Anfonwch eich sylwadau at Lywodraeth Cymru erbyn 13 Medi 2017 ar lein, trwy e-bost neu drwy'r post:

 

Cliciwch y dolenni i weld y manylion

https://consultations.gov.wales/consultations/draft-information-tenants-social-landlords-document

 

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/gwybodaeth-ddrafft-ar-gyfer-dogfen-tenantiaid-landlordiaid-cymdeithasol

Fel arall, fe allwch ddanfon eich ymatebion yn syth at TPAS Cymru trwy ddilyn y linc isod, ac fe wnawn ni’n siŵr bod eich barn yn cael ei glywed gan Llywodraeth Cymru.

https://www.surveymonkey.co.uk/r/right2buy