Bod yn Agored a Thryloyw: 5 Rheswm i Ddatgelu’r Cyfan

Bod yn Agored a Thryloyw: 5 Rheswm i Ddatgelu’r Cyfan

 

Yn ystod ein digwyddiadau gweithdy Bod yn Agored a Thryloyw, daeth yn amlwg bod cymdeithasau tai yng Nghymru yn dechrau archwilio sut a pham y dylent ‘ddatgelu’r cyfan’ er mwyn cwrdd â’r disgwyliadau newydd o ran bod yn agored a thryloyw. Mae'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC) yn dilyn eu hymchwiliad ar reoleiddio Cymdeithasau Tai (CTau) yng Nghymru yn sicr wedi bod yn sbardun allweddol tu ôl i hyn. Wrth gydnabod annibyniaeth ac ymreolaeth y sector cymdeithasau tai - yn enwedig os yw'r penderfyniad ailddosbarthu gan y SYG i gael ei wrthdroi - mae'r pwyllgor yn glir ei fod yn disgwyl i gymdeithasau fod yn fwy agored ac yn fwy tryloyw.

Yn ddiau, bydd sut fydd y tryloywder newydd hwn yn edrych yn amrywio oherwydd bod gwahanol fathau o gymdeithasau tai sy'n gwasanaethu tenantiaid a chymunedau tra amrywiol. Rhywbeth diwyllianol yw tryloywder, ni all fod yn bolisi neu set o reolau yn unig. Mae'n ddull, ethos. Felly ni fyddai unrhyw bwynt cael dull rhagnodol iawn y byddai rhaid i CTau ei fabwysiadu. Rhaid i sefydliadau fod eisiau gwneud hynny, a gweld gwerth ynddo. Mae angen i denantiaid, Byrddau a rhanddeiliaid eraill fod â rôl mewn llunio pa ddull y dylai’r sefydliad ei ddefnyddio i sicrhau tryloywder a bod yn agored.

Pa bynnag ddull a ddefnyddir, mae’n werth meddwl am rai o’r buddiannau gwirioneddol y gellir eu cael yn sgil mwy o dryloywder. Dyma 5 i ddechrau……….

1.      Perthynas o ymddiriedaeth – Diben cymdeithasol sydd i Gymdeithasau Tai. Fel arfer dywedir hyn mewn ffordd mwy bachog mewn datganiadau cenhadaeth landlord, neu bydd o leiaf wedi cael ei nodi yn y cyfansoddiad. Mae’n golygu bod rhaid i randdeiliaid: tenantiaid, trigolion a chymunedau, fod wrth wraidd yr hyn a wna Cymdeithasau Tai - ni allant ymateb i anghenion lleol na chyflawni disgwyliadau cwsmeriaid heb berthynas agored a gonest. Sut allwch chi adeiladu perthynas o ymddiriedaeth os ydych yn dal yn ôl? Felly mae tryloywder, didwylledd ac atebolrwydd yn egwyddorion pwysig.

2.      Gwell gwasanaethau - Gall gwella tryloywder helpu dealltwriaeth tenantiaid a staff o’r hyn rydych yn ei wneud a pham, gan annog y rhanddeiliaid hynny i graffu a herio mwy, a all arwain at welliannau mewn gwasanaethau a gwerth am arian. Defnyddiwch dryloywder i rannu heriau rydych angen eu goresgyn ac i chwilio am atebion posib. Gallech geisio ‘ymateb torfol’ o ran syniadau, a chydweithio gyda thenantiaid a rhanddeiliaid i ddatrys problemau

3.      Gwell penderfyniadau - Mae Cymdeithasau Tai yn gwneud penderfyniadau arwyddocaol sy'n effeithio ar fywydau tenantiaid a chymunedau: pa risgiau i'w cymryd, pa wasanaethau i fuddsoddi ynddynt, sut i gyflwyno gwasanaethau, arallgyfeirio. Mae tryloywder yn helpu i sicrhau bod byrddau a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill yn effeithiol ac effeithlon trwy agor gwybodaeth i graffu cyhoeddus a gwneud y gwneuthurwyr penderfyniadau yn atebol am eu gweithredoedd a'u penderfyniadau. Mae cyfarfodydd cyngor yr Awdurdod Lleol yn rheolaidd yn cael eu ffrydio'n fyw a gallwch weld pa benderfyniadau sy’n cael eu gwneud a sut. Gyda'r costau isel sy'n gysylltiedig â ffrydio gwybodaeth, a fydd CTau yn mabwysiadu'r dull hwn i agor i fyny ac i fod yn fwy atebol ...... ynteu a fydd rhannu cofnodion cyfarfod y Bwrdd yn fodd o roi cychwyn arni i lawer?

4.      Cynnig sicrwydd - Gall diffyg tryloywder ynghylch y gwasanaethau yr ydych yn eu darparu a’r penderfyniadau a wnewch achosi: pryder; ansicrwydd a gwybodaeth anghywir; neu denantiaid yn poeni am ddiogelwch eu cartrefi neu beth sy'n digwydd yn eu cymunedau. Mae tryloywder yn golygu bod tenantiaid a chymunedau yn gwybod beth sy'n digwydd: bod eu landlord yn cydymffurfio â meysydd allweddol megis diogelwch tân a nwy. Nid yw hyn yn digwydd oni bai bod gwybodaeth yn cael ei rhannu. Beth mae eich sefydliad yn ei rannu ar hyn o bryd gyda Thenantiaid i gynnig sicrwydd?

5.      Bod yn onest ac mewn rheolaeth – Mae tryloywder yn golygu rhannu mwy na dim ond y newyddion da. Os oes sibrydion yn chwyrlio o gwmpas am newidiadau i wasanaethau, neu os yw'r cwmni yn mynd trwy gyfnod garw, byddwch yn agored a thrafod hynny gyda thenantiaid a chymunedau. Mae'n well eu bod yn cael y wybodaeth yn syth o lygad y ffynnon na chael fersiwn wahanol; hefyd, mae'n helpu tenantiaid i deimlo fod ganddynt fuddsoddiad yn y cwmni.  

 

Gobeithio eich bod wedi meddwl am lawer o fuddion eraill. Mae bod yn agored a thryloyw ond yn gweithio os gallwch weld y gwerth ynddo, nid oherwydd eich bod yn teimlo bod yn rhaid i chi ei wneud.

 

Edrychwch allan am fy mlog sydd ar y gweill - 5 ffordd o fod yn agored a thryloyw

 

Pam na wnewch chi archebu eich lle yn y sesiwn hyfforddi yn Abertawe: http://www.tpas.cymru/agoredrwydd-a-thryloywder-bodloni-disgwyliadau-newydd-abertawe