Alexa, a wyt yn gallu helpu tai a'n cymunedau?
Rydym yn gwybod o'n gwaith ymgysylltu â thenantiaid bod Cynorthwywyr Cartref / Seinyddion Clyfar fel dyfeisiau Alexa yn sicr yn dod yn rhan o ffabrig cartrefi yng Nghymru.
Bu i ni gynnal nifer o weminarau poblogaidd yn edrych ar sut y gall Tai ac Awdurdodau Lleol ddefnyddio Alexa i ddarparu gwasanaethau ac ymgysylltu â defnyddwyr.
Os oes gennych ddiddordeb yn y gweminar, gwyliwch y recordiad.
Rydym yn addo y bydd yn ddiddorol i chi.
Os hoffech wybod mwy, siaradwch â David Wilton
[email protected]. Gallwn hefyd ddod atoch chi fel rhan o’n darpariaeth hyfforddiant rheolaidd.