Blwyddyn o Pwls Tenantiaid
Mae blwyddyn wedi mynd heibio bellach ers i TPAS Cymru sefydlu Pwls Tenantiaid i gasglu barn tenantiaid yng Nghymru ar faterion tai. Dros y cyfnod hwnnw rydym ni wedi casglu barn tenantiaid ar ystod eang o faterion ac wedi rhannu rhain gyda Llywodraeth Cymru, landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru. Gyda’n Digwyddiad Arfer Da a Gwobrau Cyfranogiad Tenantiaid 2018 ddim yn bell i ffwrdd, rydym ni wedi penderfynu llunio nodyn byr yn edrych nol ar yr hyn mae’r Pwls wedi dweud wrthym ni dros y flwyddyn diwethaf. I gael mynediad i’r adroddiad, cliciwch yma.
Am y copi o’n adroddiad Pwls Tenantiaid diweddaraf ar atgyweiriadau, cliciwch yma.