Yn dilyn adroddiadau diweddar yn codi pryderon am fforddiadwyedd rhent tai cymdeithasol yng Nghymru, Steffan Evans o TPAS Cymru sy'n ystyried pam bod y broblem yma wedi tyfu dros y misoedd diwethaf. 

Cost cynyddol tai cymdeithasol

Dydd Mercher 27 Mehefin, gwelwyd stori bryderus yn cael ei chyhoeddi ar wefan BBC Cymru Fyw. Datgelodd Shelter Cymru eu bod wedi derbyn “cannoedd ar gannodd o alwadau gan denantiaid” yn byw mewn tai cymdeithasol yn nodi pryderon am rhent anfforddiadwy o ganlyniad i gynnydd diweddar mewn rhenti. Dilynodd y stori hon yn agos ar sodlau cyhoeddi adroddiad gan y Joseph Rowntree Foundation “Effective housing for people on low incomes in the Welsh Valleys” sydd hefyd wedi codi pryderon ynghylch fforddiadwyedd rhent cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd ar yr incwm isaf.

Yn anffodus, nid oedd yr adroddiadau hyn yn syndod i ni yma yn TPAS Cymru. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae fforddiadwyedd rhent wedi cael ei nodi fwyfwy fel pryder yn ein rhwydweithiau tenantiaid a chan aelodau ein Pwls Tenantiaid. Rydym wedi pasio'r pryderon hyn at Lywodraeth Cymru, y Bwrdd Rheoleiddio ar gyfer Cymru a'r sector yn fwy cyffredinol, yn fwyaf diweddar drwy gyhoeddiad ein hadroddiad, Llais y Tenantiaid ar Werth am Arian. Ond pam fod y mater yma wedi dod yn fwy amlwg dros y misoedd diwethaf? 

Mae polisi gosod rhent yng Nghymru yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r system sydd ar waith ar hyn o bryd yn caniatáu i rhent tai cymdeithasol gynyddu gan Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr (CPI) ynghyd â 1.5% bob blwyddyn a £2 ychwanegol yr wythnos. Yn 2014, 2015 a 2016, roedd y CPI yn rhesymol isel, sy'n golygu na gynyddodd rhent tai cymdeithasol yng Nghymru yn sylweddol. Dechreuodd y cyfraddau llog godi yn gynnar yn 2017, fodd bynnag, a phan osodwyd y rhent ar gyfer 2018-19, roedd yn 3%. Golygai hyn, ym mis Ebrill 2018, caniatawyd i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, i godi eu rhenti hyd at 4.5% yn ogystal â £2 yr wythnos. Mae'r darn a gyhoeddwyd gan y BBC ddydd Mercher yn dangos bod o leiaf dau awdurdod lleol ac un ar ddeg cymdeithas tai wedi cynyddu eu rhent gan y 4.5% llawn ynghyd â £2 yr wythnos, gyda Shelter Cymru yn nodi eu bod wedi derbyn galwadau gan nifer fawr o denantiaid tai cymdeithasol a oedd wedi gweld eu rhent yn cynyddu ar gyfartaledd o £300 dros y flwyddyn.

Gyda chynnydd mawr mewn rhent, efallai nad yw'n syndod bod sefydliadau fel Shelter Cymru a TPAS Cymru yn gweld mwy o denantiaid yn nodi eu pryderon am gost eu rhent cymdeithasol. Nid yn unig y mae rhent wedi bod yn cynyddu, ond mae diwygio lles wedi cael effaith uniongyrchol ar lawer o denantiaid tai cymdeithasol. Mae adroddiad y Joseph Rowntree Foundation i'r rheini sydd ar incwm isel yng Nghymoedd Cymru yn nodi unwaith y bydd y rownd bresennol o ddiwygio lles wedi cael ei roi ar waith yn llawn, bydd preswylwyr o oedran gweithio yn y Cymoedd yn £333 miliwn waeth eu byd nag yr oeddent yn 2010, neu £840 fesul person oed gweithio. O ganlyniad i’r ddau newid yma, roeddent yn amcangyfrif nad oedd y rhent cymdeithasol ar gyfer eiddo 2 ystafell wely anghenion cyffredinol yn y Cymoedd yn fforddiadwy ar gyfer oddeutu 46% o denantiaid yn yr ardal.

O ystyried yr holl bryderon yma, pam mae rhent cymdeithasol yn codi? Mae nifer o resymau pam mae landlordiaid cymdeithasol yn cynyddu eu rhent. Yn gyntaf, mae landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn chwarae rôl allweddol wrth gynorthwyo Llywodraeth Cymru i gwrdd â'i darged o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021. Mae'r arian y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu codi trwy rhent tai cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth ganiatáu iddynt adeiladu'r tai newydd sydd mawr eu hangen. Mae landlordiaid cymdeithasol hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth ychwanegol i denantiaid megis hyfforddiant a all gynorthwyo tenantiaid i fynd i mewn i'r gweithle, a chyngor ar sut i sicrhau eu bod yn derbyn yr holl daliadau budd-dal y mae ganddynt hawl iddynt. Mae yna gost am gynnig y gwasanaethau ychwanegol hyn y mae rhent yn helpu i'w ariannu.

Mae yna arwyddion y gall newidiadau fod ar y gorwel. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad i lefelau rhent cymdeithasol yng Nghymru, a disgwylir y canlyniadau diwedd yr haf / dechrau'r hydref, ac nid tenantiaid yn unig sy’n debygol o fod eisiau gweld diwygiad. Yn 2017, cyhoeddodd Cartrefi Cymunedol Cymru, y corff cynrychioliadol ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru nodyn yn dadlau nad oedd yr ymagwedd bresennol at osod rhent yn "gynaliadwy". Un o'r rhesymau pam eu bod wedi dod i'r casgliad hwn oedd bod “y dull presennol yn gweithredu'n annibynnol ar ddiwygiadau lles ac mae'n ddall i'r peryglon o ran fforddiadwyedd i denantiaid a chasgliadau rhent.”

Mae gan denantiaid hefyd ddiddordeb cynyddol mewn chwarae rôl fwy cryf yn y broses. Mae nifer o denantiaid wedi cysylltu â TPAS Cymru a oedd eisiau dealltwriaeth fwy clir o’r mecanwaith sydd ar waith a oedd yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol gynyddu eu rhenti. Ymddengys bod eu gallu i chwarae rhan yn y broses am gael ei gryfhau gyda Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gyhoeddi data ar berfformiad cymdeithasau tai ar-lein. Felly bydd tenantiaid yn gallu cymharu data ar eu landlord gydag eraill sy'n gweithredu yn eu cymuned. Un rhan o ddata yr ydym yn disgwyl ei weld ar y wefan hon yw lefelau rhent. Bydd hyn yn rhoi grym i denantiaid holi eu landlord os oes unrhyw wahaniaeth sylweddol yn amlwg rhwng eu rhent nhw a rhent landlordiaid eraill yn eu hardal, gan ganiatáu i denantiaid gael dealltwriaeth lawnach o pam mae eu landlord yn gweithredu yn y modd y maen nhw'n ei wneud.

Mae'r adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i mewn i lefelau rhent a’r Gweinidog yn Cyhoeddi Adolygiad o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yng Nghymru yn ymddangos yn gyfle i drafod y cwestiwn anodd hwn ac i ddatblygu ymagwedd gynaliadwy, hirdymor i lefelau rhent tai cymdeithasol yng Nghymru.