Yr adroddiad hwn yw cam 3 o gyfres sy’n edrych ar brofiadau tenantiaid ledled Cymru mewn perthynas â phandemig Covid-19. Nod yr adroddiad hwn yw deall sut mae'r pandemig wedi effeithio ar fywydau pobl a'r hyn y mae tenantiaid yn ei ystyried yn bwysig iddynt o ran ymgysylltu a chefnogaeth gan landlordiaid. Ymatebodd tri chant chwe deg wyth o denantiaid i'r arolwg hwn o bob un o'r 22 o ardaloedd Awdurdod Lleol yng Nghymru, ac er ein bod yn cydnabod nad yw hyn yn gynrychioliadol o'r boblogaeth tenantiaid gyfan, rydym yn hyderus bod y canfyddiadau'n cynnig mewnwelediad gwerthfawr. Ein gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn gweithredu fel sylfaen i helpu landlordiaid i lunio eu gwasanaethau yn unol â disgwyliadau a chanfyddiadau tenantiaid yn ystod amseroedd mor ansicr.

Llais y Tenantiaid ar Covid -19 Cam 3

Pwls Tenantiaid yw'r panel swyddogol o denantiaid ledled Cymru sy'n rhoi eu barn ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Fe’i crëwyd gan TPAS Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) ynghyd â Rhentwyr Preifat gan gynnwys myfyrwyr a'r rheini mewn Tai â Chefnogaeth. Os ydych chi'n denant pam na wnewch chi ddysgu mwy am Bwls Tenantiaid.

Cam 1: Ym mis Ebrill 2020, y pythefnos cyntaf o'r ‘cyfnod clo’ gwnaethom gynnal arolwg ledled Cymru, gan ofyn i denantiaid am eu barn a’u pryderon cychwynnol ynghylch pandemig Covid-19.  Amlygodd yr adroddiad cyhoeddedig bryderon pobl am iechyd, mynediad at gyflenwadau siopa, o ble roeddent yn cael gwybodaeth a pha fath o gefnogaeth yr oeddent ei eisiau gan eu landlord.

Cam 2: Ym mis Mai 2020, gwnaethom gynnal ail arolwg ledled Cymru. Wrth i'r cyfnod clo barhau yng Nghymru, er gwaethaf gweld cyfyngiadau yn cael eu dileu fesul cam yng Nghymru, roeddem am ddeall sut roedd tenantiaid yng Nghymru yn teimlo a'u hagwedd a'u hanghenion cyfredol. Gellir gweld yr adroddiad cyhoeddedig yma.

Y diweddaraf

Cam 3: 6 mis yn ddiweddarach ac mae pandemig Covid-19 yn dal i ddylanwadu ar ein bywydau i gyd, gwnaethom gynnal trydydd arolwg ledled Cymru i ddeall anghenion tenantiaid ac i weld a oedd unrhyw newidiadau wedi digwydd dros y cyfnod hwn. Gellir gweld yr adroddiad cyhoeddedig yma.

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd eu hamser i gwblhau'r arolygon. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser ac i ddangos y diolchgarwch hwnnw, rydyn ni'n mynd i roi enw bob tenant a gwblhaodd yr arolygon am mewn raffl Nadolig i ennill taleb gwerth £100Os nad ydych am gael eich cynnwys, e-bostiwch [email protected] i roi gwybod i ni.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenantiaid sydd wedi ei noddi gan Grŵp Pobl