Ymunwch â Grŵp Cynghori Pwls Tenantiaid
Helpwch ni i sicrhau bod lleisiau’r holl denantiaid yn cael eu clywed.
Bydd y Grŵp Cynghori Pwls Tenantiaid (GCPT) yn gweithredu ar ran tenantiaid yng Nghymru fel llysgenhadon ar gyfer platfform Pwls Tenantiaid (PT). Byddant yn ein helpu i benderfynu ar bynciau ar gyfer arolygon ac yn gweithredu fel ffrind beirniadol i helpu i sicrhau bod Pwls Tenantiaid yn gofyn y cwestiynau cywir i denantiaid yng Nghymru.
Gall hyn fod trwy adolygu cwestiynau Pwls Tenantiaid a darparu adborth trwy ffurflenni ar-lein neu gyfarfodydd, gan gael yr olwg gyntaf ar arolygon cyn eu lansio. Bydd aelodau GCPT yn cael eu had-dalu am eu hamser ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol trwy gymhellion neu dalebau eraill.
Pam ddylech chi gymryd rhan?
Bydd bod yn rhan o GCPT yn helpu i sicrhau bod Pwls Tenantiaid yn wirioneddol yn blatfform a arweinir gan lais y tenant, a bydd yn ei dro yn helpu i lunio deddfwriaeth yng Nghymru.
Byddwch hefyd yn ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn dulliau ymchwil a hyfforddiant mewn technegau ymchwil. Bob blwyddyn, byddwch yn gallu dewis taleb fel arwydd ychwanegol o'n diolch.
Beth ydym yn chwilio amdano?
Mae 3 maen prawf syml ar gyfer cymryd rhan fel aelod GCPT:
-
Rydych yn denant i landlord preifat neu gymdeithasol yng Nghymru.
-
Rydych chi dros 18.
-
Mae gennych tua 30 munud o amser ar gael bob mis i roi adborth a dweud eich dweud ar ddyfodol Pwls Tenantiaid.
Sylwch: mae lleoedd wedi’u cyfyngu i 2 denant fesul landlord, felly rydym yn annog cysylltu’n gynnar.
Ydy hyn yn swnio fel chi? Gwnewch gais yma: https://tpascymru.questionpro.eu/TPAG
Mae ceisiadau ar agor tan 4pm ddydd Gwener 22 Mawrth.