Mae TPAS Cymru yn gyffrous i lansio ei 4ydd arolwg Pwls Tenantiaid ar Sero Net - Effeithlonrwydd Ynni a Chynhesrwydd Fforddiadwy. Mae’r arolwg byr hwn yn cymryd llai na 5 munud a’i nod yw archwilio barn tenantiaid ar ddatgarboneiddio tai yng Nghymru

Ydych chi'n denant sy'n rhentu yng Nghymru?

Mae TPAS Cymru yn gyffrous i lansio ei 4ydd arolwg Pwls Tenantiaid ar Sero Net - Effeithlonrwydd Ynni a Chynhesrwydd Fforddiadwy. Mae’r arolwg byr hwn yn cymryd llai na 5 munud a’i nod yw archwilio barn tenantiaid ar ddatgarboneiddio tai yng Nghymru.

 

Mae’r argyfwng ynni wedi dylanwadu’n sylweddol ar sut mae pobl yn byw, gan wneud yr ymdrech am Sero Net a’r ffocws ar ddatgarboneiddio o fewn y diwydiant tai yn bwysicach nag erioed.

Gwyddom fod canfyddiadau ac argymhellion ein harolygon Pwls Tenantiaid yn cynnig mewnwelediad a gwybodaeth werthfawr i’r heriau a phrofiadau tenantiaid ar hyn o bryd, yn ystod cyfnod heriol yn ariannol i bawb.

Rydym angen eich llais ar hyn o bryd i gael ei glywed. Byddwn yn mynd â’r canfyddiadau a’r argymhellion ac yn pwyso arnynt dros y flwyddyn nesaf at swyddogion y Llywodraeth, rhanddeiliaid y sector tai a llunwyr polisi.

Os ydych chi'n denant yng Nghymru, gwnewch yn siŵr bod eich barn yn cael ei chlywed trwy lenwi'r arolwg yma.

Noder: Pwls Tenantiaid yw panel swyddogol Cymru gyfan i denantiaid roi eu barn ar y pethau sydd o bwys iddynt. Cafodd ei greu gan TPAS Cymru 5 mlynedd yn ôl a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cael ei redeg yn rheolaidd ar wahanol faterion cyfoes i helpu i lunio a thrawsnewid polisi tai yng Nghymru. Mae Pwls Tenantiaid yn cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol (Cymdeithasau Tai a thai Cyngor) ynghyd â rhentwyr preifat a’r rheini mewn tai â chymorth.

Diddordeb? Os ydych yn denant yng Nghymru, beth am glicio yma i ymuno â’n rhestr bostio Pwls Tenantiaid a gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed mewn arolygon yn y dyfodol?

Hoffai TPAS Cymru ddiolch i'r holl denantiaid a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolwg. Mae eich llais yn bwysig iawn ac rydym yn gwerthfawrogi eich amser yn fawr.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant a noddir gan