Roeddem eisiau deall sut roedd tenantiaid yng Nghymru yn teimlo a'u hagwedd a'u hanghenion cyfredol

Llais y Tenantiaid - Covid-19 - Craciau yn dechrau ymddangos

Cyfnod 1: Yn ystod pythefnos cyntaf y ‘cyfyngiadau symud’ (diwedd mis Mawrth / dechrau Ebrill 2020) gwnaethom gynnal arolwg ledled Cymru yn gofyn i denantiaid am eu teimladau a’u pryderon cychwynnol ynghylch pandemig Covid-19. Amlygodd yr adroddiad cyhoeddedig bryderon pobl am iechyd, mynediad at gyflenwadau siopa, o ble y cawsant wybodaeth a pha gefnogaeth yr oeddent ei eisiau gan eu landlord. 
 
Cyfnod 2: Saith wythnos yn ddiweddarach, penderfynodd TPAS Cymru fod angen arolwg pellach. Mae'r cyfyngiadau yn parhau yng Nghymru, ond rydym yn gweld cyfyngiadau yn cael eu dileu fesul cam yn Lloegr. Roeddem eisiau deall sut roedd tenantiaid yng Nghymru yn teimlo a'u hagwedd a'u hanghenion cyfredol. Yr ymateb i'r arolwg hwn oedd yr uchaf a gawsom ers i Pwls Tenantiaid ddechrau 3 blynedd yn ôl, a byddwn yn sicrhau bod y llais a gynhwysir yn yr adroddiad hwn yn cael ei rannu'n eang yn y sector tai fel y gall pobl weithredu ar y canfyddiadau.  

Dadlwythwch yr adroddiad hwn (yn Cymraeg, PDF)

29ain Mai 2020: "Llais y Tenantiaid - Covid-19 - Craciau yn dechrau ymddangos"

 

Dyluniwyd y cwestiynau safonol a nodwyd yn holiadur yr arolwg gan TPAS Cymru gyda mewnbwn gan Lywodraeth Cymru, 2 Awdurdod Lleol a 2 Gymdeithas Tai.

Diolch i'n cyllid rhannol gan Lywodraeth Cymru a'n noddwr Llais Tenantiaid: Grŵp Pobl.