Mae TPAS Cymru yn ymateb i adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i'r system o rheoleiddio Tai Cymdeithasol yng Nghymru

Ymateb TPAS Cymru i Ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Heddiw (2 Awst) mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dilyn ei Ymchwiliad i oruchwyliaeth rheoleiddiol Cymdeithasau Tai. Mae’r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad ar sut y gellid cryfhau rheolaeth Cymdeithasau Tai yng Nghymru.

Mae TPAS Cymru yn croesawu argymhellion yr adroddiad. Yn arbennig, rydym yn croesawu’r argymhelliad y dylid hybu tryloywder o fewn y sector yng Nghymru. Rydym yn credu y bydd hyn yn hybu ac yn galluogi tenantiaid a rhanddeiliaid i orfodi landlordiaid i fod yn gyfrifol. Mae TPAS Cymru yn credu ei bod yn hollbwysig fod Llywodraeth Cymru a Chymdeithasau Tai yng Nghymru yn sicrhau bod gan denantiaid yn Nghymru fynediad at unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol iddynt. Rydym, felly,  yn croesawu argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu system debyg i’r hwn sydd yn bodoli yn yr Alban lle mae’r Rheoleiddiwr Albanaidd yn cyhoeddi data clir a chymharol at ddefnydd y cyhoedd.

Tra rydym yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor i hybu tryloywder, mae TPAS Cymru hefyd yn cytuno gyda’r  Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod yna wahaniaeth rhwng tryloywder a chraffu. Mae TPAS Cymru yn cefnogi galwadau’r adroddiad i sicrhau bod ‘na graffu priodol dros perfformiad Cymdeithasau Tai gan denantiaid. Rydym ni o’r farn bod y “Safonau Perfformiad” newydd, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cyfrannu at y nod hwn, yn enwedig “Safon Perfformiad 2 – Cynnwys tenantiaid mewn ffordd effeithiol a phriodol a gwasanaethau landlord o safon uchel ac sy'n gwella.” Fe fydd TPAS Cymru yn parhau i weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru, tenantiaid a landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau bod tenantiaid yn gallu craffu ar berfformiad eu Cymdeithas Tai yn effeithiol.

Mae TPAS Cymru hefyd yn cytuno gyda chanfyddiadau’r adroddiad fod ‘na angen i Gymdeithasau Tai yn Nghymru daro cydbwysedd gofalus wrth iddynt chwilio am gyfleon i arallgyfeirio. Er ein bod yn cydnabod bod angen i Gymdeithasau Tai yng Nghymru ganfod ffynonellau ariannol newydd, rydyn ni’n credu ei fod yn bwysig bod landlordiaid cymdeithasol yn sicrhau eu bod yn parhau i gynnig gwasanaethau o’r safon uchaf ar gyfer eu tenantiaid presennol. Mae TPAS Cymru hefyd yn cefnogi’r argymhelliad y dylid gynnal arolwg i fewn i lefelau presennol arallgyfeiriedd o fewn y sector. Rydym ni’n credu y byddai’r fath arolwg yn hybu tryloywder ledled y sector, ac fe fyddai’n rhoi cyfle i rannu gwybodaeth ac arferion da.

Un o argymhellion arall yn yr adroddiad yw bod “unrhyw ddadreoleiddio o ran y sector sy’n angenrheidiol i wyrdroi penderfyniad SYG yn gymesur ac yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru, fel rheoleiddiwr, ddigon o bwerau o hyd i ddiogelu buddiannau rhanddeiliaid, yn arbennig tenantiaid”. Mae TPAS Cymru yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor.

Mae TPAS Cymru hefyd yn rhannu brwdfrydedd y Pwyllgor am yr arolygiad presennol sy’n cael ei gynnal ar lywodraethiant o fewn y sector dai. Rydym yn hapus iawn bod Steffan Evans, ein Swyddog Cyfranogiad, wedi cael ei ddewis i fod ar y tîm arolygu, ynghyd ag un o’n aelodau Bwrdd, Bill Hunt, sydd hefyd yn denant gyda Cartrefi Conwy. Fe fydd TPAS Cymru yn gweithio i sicrhau bod llais tenantiaid yn cael ei glywed mewn unrhyw ddadl ynglŷn â chyflwyno talu aelodau Bwrdd. Mae TPAS Cymru yn credu y dylai unrhyw benderfyniad y byddai yn arwain at gyflwyno tâl i aelodau Bwrdd fynd law yn llaw gyda gwellhad mewn safon perfformiad Byrddau.

Fe fydd TPAS Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Bwrdd Rheoleiddio Cymru i sicrhau bod llais tenantiaid yn cael ei glywed ar faterion reoleiddiol. Mae gwaith TPAS Cymru yn cael ei arolygu’n gyson gan y grŵp “Making it Work”, sydd o dan arweiniad Cadeirydd y Bwrdd Rheoleiddio Cymru. Credwn ein bod yn dilyn argymhellion y Pwyllgor yn barod. Os ydych yn denant yng Nghymru sy’n awyddus i bobl cael clywed eich barn, fe ddylech chi ymuno â’n Tim Pwls Tenantiaid.

 

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma. Fe fydd TPAS Cymru yn trefnu sesiynau gwybodaeth ar gyfer tenantiaid a swyddogion i arolygu a thrafod beth mae'r adroddiad yn ei  olygu i gyfranogiad a llais denantiaid.