Nawr yw’r amser i adolygu a myfyrio ar ganfyddiadau adroddiad ‘Y Pethau Iawn’ ac asesu dull eich sefydliad o gynnwys tenantiaid. A yw eich sefydliad yn cael ‘Y Pethau Iawn’ yn iawn?
Mae adroddiad Bwrdd Rheoleiddio Cymru ’Y Pethau Iawn - Clywed Llais y Tenantiaid' yn nodi themâu allweddol i landlordiaid cymdeithasol eu hadolygu i sicrhau bod eu dull o gynnwys tenantiaid yn gadarn ac yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Bydd y cyfleoedd a nodwyd yn yr adroddiad hefyd yn rhan o oruchwyliaeth reoleiddio barhaus. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn ddefnyddiol i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau bod eu landlord yn atebol.
Yn y digwyddiad gweithdy ½ diwrnod anffurfiol hwn byddwn yn archwilio prif themâu'r adroddiad i'ch helpu chi i nodi meysydd y mae angen i'ch sefydliad ganolbwyntio arnynt a chyfleoedd i'ch sefydliad gan gynnwys:
-
Diben a Deilliannau o Gyfranogiad – felly beth!? dangos y gwahaniaeth y mae cyfranogiad yn ei wneud?
-
Diwylliant Sefydliadol – creu diwylliant cadarnhaol, wedi'i arwain o'r brig, a adeiladwyd ar ymddiriedaeth a didwylledd a sicrhau bod y diwylliant yn cyd-fynd â dull cyfranogiad tenantiaid
-
Gwrando a gweithredu – sut i wneud hynny ac yn dangos eich bod yn gwneud hynny?!
-
Gwerth am arian – a yw eich dull cyfranogiad yn sicrhau gwerth am arian a sut ydych chi'n gwybod hyn?
Buddion mynychu ar gyfer Staff, Uwch Reolwyr, Tenantiaid ac Aelodau'r Bwrdd
-
Cael trosolwg o ganfyddiadau'r adroddiad
-
Cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad a'i weithrediad ar draws y sector
-
Archwilio themâu allweddol yr adroddiad a'r hyn y mae'n ei olygu i'ch sefydliad
-
Nodi’r ‘camau nesaf’ ar gyfer eich Bwrdd, Uwch Reolwyr, Staff a Thenantiaid
-
Rhwydweithio ag eraill
Mae lleoedd yn brin ac awgrymir i gynrycholwyr archebu'n gynnar trwy'r system archebu ar-lein isod.

Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Clywed Llais y Tenantiaid – Cael ‘Y Pethau Iawn’ yn iawn - Abertawe
Dyddiad
Dydd Iau
07
Tachwedd
2019, 09:45 - 13:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 23 Hydref 2019
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
[email protected]
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
SYSHP (Swansea Young Single homeless project)
Cyfeiriad y Lleoliad
52 Walter Road
Swansea
SA1 5PW
01792 537530