Mae'r sesiwn hon yn edrych yn gytbwys ar sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn cyfathrebu tai, lle gall helpu, a lle mae angen bod yn ofalus.

Ymgysylltu Digidol Gwell – Sesiwn 3: Ydi Deallusrwydd Artiffisial ac Offer Digidol Eraill yn Ffrind neu'n Elyn?

Dydd Mawrth, 12 Mai 2026: 1pm - 2pm

Mae offer deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio fwyfwy mewn cyfathrebu tai - o gynhyrchu cynnwys i gyfieithu deunyddiau ond beth mae hyn yn ei olygu i ymddiriedaeth, ansawdd a chynhwysiant?

Mae'r sesiwn hon yn edrych yn gytbwys ar sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn cyfathrebu tai, lle gall helpu, a lle mae angen bod yn ofalus.

Byddwch yn dysgu:

  • Sut mae DA yn cynhyrchu cynnwys digidol a fideo
  • Cyfyngiadau a risgiau deunyddiau a gynhyrchir gan DA
  • Sut i adnabod cynnwys a gynhyrchir gan DA
  • Sut i gynnal ansawdd, dilysrwydd ac ymddiriedaeth
  • Canfyddiadau o brofion TPAS Cymru gyda rhentwyr ar gynnwys aml-iaith a gynhyrchir gan AI

Pwy ddylai fynychu?
Yn addas ar gyfer staff a thenantiaid.

Cost:
  • Staff (Aelodau): £39 + TAW
  • Tenantiaid: £29 + TAW
  • Pawb Arall: £89 + TAW

*** Gostyngiad ar gael os byddwch yn mynychu sawl sesiwn o fewn y gyfres***

  • Archebwch sesiynau 1 a 3 (ar-lein) am 10% oddi ar y gost gyffredinol
  • Archebwch pob un o'r tri sesiwn am 20% oddi ar y gost gyffredinol

Bydd gostyngiadau ar yr anfoneb.

Fel arfer, rydym yn anfonebu ar ôl y digwyddiad, ond os oes angen, gallwn anfon anfonebau cyn 31 Mawrth, rhowch wybod i ni adeg archebu.

Pethau i'w wybod:
  • Sesiwn ar-lein dros Zoom yw hon
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
  • NI fydd sleidiau'n cael eu rhannu ar ôl y sesiwn

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma

 

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.


Telerau ac Amodau 
  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai ar ôl 11 Mai byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu'r sesiwn, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
  • Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Ymgysylltu Digidol Gwell – Sesiwn 3: Ydi Deallusrwydd Artiffisial ac Offer Digidol Eraill yn Ffrind neu'n Elyn?

Dyddiad

Dydd Mawrth 12 Mai 2026, 13:00 - 14:00

Archebu Ar gael Tan

11 Mai 2026

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

AGOS X