Dydd Iau, 11 Mehefin 2026: 11am -12:30pm
-
Ydych chi'n Denant sy'n aelod o fwrdd Cymdeithas Tai yng Nghymru?
-
Ydych chi'n Denant sy'n edrych i fod yn aelod o fwrdd?
Os ydych, yna gwnewch yn siŵr eich bod yn rhan o'n Fforwm Aelodau Bwrdd cyfeillgar a fydd yn dod ag aelodau bwrdd sy'n denantiaid o bob cwr o'r genedl ynghyd.
Mae'r fforwm ar-lein hwn wedi'i gynllunio i fod yn anffurfiol ac yn rhyngweithiol, gan roi cyfle i chi gyfarfod, rhwydweithio a rhannu profiadau a syniadau gydag aelodau eraill o'r Bwrdd sy'n Denantiaid o bob cwr o Gymru.
Byddwn hefyd yn rhannu rhai o'r materion tai mawr diweddaraf y dylai aelodau'r bwrdd fod yn ymwybodol ohonynt.
Manteisiwch i'r eithaf ar y cyfle hwn i gwrdd â thenantiaid eraill mewn rolau tebyg a datblygu eich gwybodaeth.
Mae'r sesiwn hn yn rhad ac am ddim
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn? Tenantiaid sydd yn aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai neu Tenantiaid sydd yn edrych i fod yn aelod o fwrdd.
Pethau i'w gwybod:
-
Rhwydwaith ar-lein dros Zoom fydd hon
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Fforwm Aelodau Bwrdd Tenantiaid - Mehefin 2026
Dyddiad
Dydd Iau
11
Mehefin
2026, 11:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 10 Mehefin 2026
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
Tenantiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad