Cwrdd â Bwrdd Rheoleiddio Cymru (RBW) a sut y gallwch ddylanwadu a siapio polisi tai Cymru

Cwrdd â Bwrdd Rheoleiddio Cymru (RBW)

Dydd Mercher,  11 Mai 2022:  11.00am - 12.30pm

Cwrdd â Bwrdd Rheoleiddio Cymru (RBW) a sut y gallwch ddylanwadu a siapio polisi tai Cymru.

Mae'r RBW yn fwrdd annibynnol sy'n cynghori'r Gweinidog Tai ar berfformiad y Rheoleiddiwr Tai a'r sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ehangach. Mae ganddyn nhw rôl bwysig iawn mewn tai yng Nghymru.  Yn dilyn digwyddiad ar-lein llwyddiannus y llynedd, rydym unwaith eto wedi gwahodd y Cadeirydd a rhai o aelodau’r Bwrdd i ddod i sesiwn TPAS Cymru i denantiaid a swyddogion ddysgu mwy a chael mewnbwn i waith y Bwrdd. Hefyd yn bresennol bydd mynychwyr tîm Polisi Rheoleiddio Llywodraeth Cymru.

Fformat y cyfarfod:
  1. Rheoleiddio: datblygiadau diweddar a chynlluniau gwaith ar gyfer y dyfodol.
  2. Adborth/pryderon diweddar tenantiaid a chwsmeriaid: TPAS Cymru
  3. Sut mae cymdeithasau tai yn perfformio? Cyfle i denantiaid roi eu barn ar sut mae cymdeithasau tai yn ymateb i'w hanghenion.  
  4. Cwestiynau i’r Bwrdd

Mae'r sesiwn hon wedi'i hanelu at denantiaid sydd â diddordeb mewn polisi tai, rheoleiddio a chraffu. Bydd staff tai yn dysgu beth yw ffocws y Bwrdd wrth symud ymlaen a sut y gallai hynny effeithio ar eu gwaith. 

Cost:
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac ar gyfer aelodau TPAS Cymru yn unig 
 
 
Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cwrdd â Bwrdd Rheoleiddio Cymru (RBW)

Dyddiad

Dydd Mercher 11 Mai 2022, 11:00 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

09 Mai 2022

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X