Weithiau bydd landlordiaid yn nodi eiddo nad ydyn nhw ei eisiau mwyach neu nad ydyn nhw'n cyd-fynd â'u strategaeth; felly, maen nhw'n ceisio ei werthu. Fel arfer maent yn dod o fewn un o'r ystyriaethau hyn...Darllen mwy

Gwarediadau Eiddo (Cyfres yr Agenda 2)

(pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord)

Gweler Fideo'r Lansiad

Cefndir i'r Agenda

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn, wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y canlynol

Gwarediadau Eiddo

Weithiau bydd landlordiaid yn nodi eiddo nad ydyn nhw ei eisiau mwyach neu nad ydyn nhw'n cyd-fynd â'u strategaeth; felly, maen nhw'n ceisio ei werthu. Fel arfer maent yn dod o fewn un o'r ystyriaethau hyn:

  1. Anodd ei osod,
  2. Methu uwchraddio i Safon Ansawdd Tai Cymru neu fod yn rhy gostus i'w gynnal
  3. Maent yn eiddo nad ydynt yn ‘diriogaeth graidd’ i’r landlord hwnnw ei wasanaethu a’i gynnal

Ar ôl 2019, nid oedd angen caniatâd Llywodraeth Cymru bellach ar landlordiaid cymdeithasol Cymru i werthu unrhyw ran o’u tai. I fod yn onest, nid ydym wedi clywed am unrhyw faterion go iawn hyd yma yng Nghymru, ond mae ychydig o landlordiaid cymdeithasol Cymru wedi sôn wrth TPAS Cymru eu bod yn bwriadu cael gwared ar gartrefi unigol nad ydyn nhw'n gweddu i'w cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Nid oes llawer o bwynt bod yn landlord eiddo lle nad oes neb eisiau byw, neu ni ellir eu huwchraddio'n economaidd i'r safon y maent am ei darparu.

Fodd bynnag, mae'n fater llawer mwy yn Lloegr, gyda rhai landlordiaid yn cyfnewid / gwerthu blociau sylweddol o dai. Er enghraifft, yn ddiweddar fe werthodd un landlord 154 o gartrefi i landlord arall gyda thenantiaid yn byw ynddynt. Beirniadwyd Landlord arall am werthu nifer o flociau tai gwarchod i gwmni buddsoddi ariannol. Mae'r mater mwy hwn yn Lloegr (a'r Alban) yn peri pryder i ni.

O fy mhrofiad i, mae'n ymddangos bod yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr yn dod i Gymru yn y pen draw. Hefyd, gallai’r agenda dad-garbonio (gwneud cartrefi yn llawer mwy effeithlon o ran ynni), olygu y gallai rhai landlordiaid geisio cael gwared ar eiddo ‘anodd eu trwsio’. Felly, byddai TPAS Cymru yn annog tenantiaid i geisio cyd-gynhyrchu ac egluro polisi a chanllawiau eich landlord nawr. Dylai hyn sicrhau bod unrhyw warediadau yn y dyfodol yn cael eu gwneud yn foesegol ac yn unol â phwrpas cymdeithasol y sector

Cwestiynau i grwpiau tenantiaid eu gofyn:

  1. Beth yw polisi eich landlord ar gyfer gwerthu eiddo? Oes ganddyn nhw bolisi?
  2. Os felly, a ymgynghorwyd â thenantiaid arno?  
  3. A wnaeth y Bwrdd drafod a llofnodi'r polisi?
  4. Os oes polisi, a yw'n cynnwys manylion am:
    1. Pa feini prawf maen nhw'n eu defnyddio ar gyfer nodi gwarediadau posib?
    2. A yw'n glir ac yn dryloyw ynghylch y rhesymeg dros y gwerthiant?
    3. Pa ymgynghori / cyfathrebu / rhybudd fydd yn digwydd gyda thrigolion a rhanddeiliaid lleol?
    4. A fyddent yn gwerthu eiddo gyda thenant yn byw ynddo?
    5. A ydyn nhw'n cytuno gyntaf i geisio gwerthu'r eiddo i gymdeithas dai arall, awdurdod lleol neu sefydliad cymunedol, gwirfoddol neu elusennol lleol?
    6. Lle nad yw hyn yn bosibl, a fydd yn archwilio opsiynau amgen gan gynnwys   trosglwyddo asedau cymunedol neu eu trosi'n ased cymunedol.
    7. A ydyn nhw'n cytuno mai'r dewis olaf fydd gwerthu ar y farchnad agored, gan atodi amodau i sicrhau bod yr eiddo a'i ddeiliaid yn bresenoldeb cadarnhaol yn yr ardal?
  5. Beth sy'n digwydd i unrhyw arian a godir?
  6. Beth yw'r broses ar gyfer adolygu'r polisi a beth yw'r broses ymgysylltu â thenantiaid ar gyfer gwneud diwygiadau?

Gobeithio bod yr Agenda hwn wedi bod o ddiddordeb.

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am gyfres Yr Agenda ac os ydych chi wedi gwneud unrhyw beth gwahanol o ganlyniad i hyn neu unrhyw un o'r sesiynau briffio rydyn ni wedi'u cynhyrchu

 

Noddwyr Llais Tenantiaid

Mae'r Agenda yn rhan o raglen o waith yn edrych i ymhelaethu llais tenantiaid. Rydym yn ddiolchgar iawn i Grŵp Pobl sy'n noddi ein gwaith llais tenantiaid.

 

Hoffem hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am rhan-gyllido TPAS Cymru fel sefydliad ac i Tai Cymru a’r Gorllewin am y prif nawdd trwy gydol y flwyddyn.