Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ein cynhadledd hanner diwrnod poblogaidd Cartrefi a Chymunedau - Gogledd Cymru yn cael ei chynnal eto eleni yn Venue Cymru dydd Mercher, 11 Mawrth.

Cartrefi a Chymunedau Gogledd Cymru – Cynhadledd ½ diwrnod 2026

9.30am (i gychwyn am 10 am) – 1pm

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ein cynhadledd hanner diwrnod poblogaidd Cartrefi a Chymunedau - Gogledd Cymru yn cael ei chynnal eto eleni yn Venue Cymru dydd Mercher, 11 Mawrth.

Mae’r digwyddiad anffurfiol ac addysgiadol rhad ac am ddim hwn ar gyfer staff a thenantiaid ac mae ar gyfer ein haelodau TPAS Cymru yn unig.

Bydd yn gyfle gwych i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr sy’n procio’r meddwl ac yn llawn gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng nghymunedau a thai gogledd Cymru. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi rwydweithio gyda mynychwyr o landlordiaid cymdeithasol ar draws y rhanbarth. 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Beth sydd angen i chi wybod:
  • Digwyddiad am ddim yw hwn sydd ar gael yn i sefydliadau Gogledd Cymru sy'n aelodau o TPAS Cymru yn unig.
  • Er mwyn sicrhau bod lleoedd i'n holl aelodau, bydd y niferoedd ar gyfer y digwyddiad hwn yn gyfyngedig. Rydym yn caniatáu 6 aelod (staff neu denantiaid) o bob Landlord i archebu lleoedd i ddechrau. Bydd y lleoedd hyn ar sail y cyntaf i'r felin: os oes gennym unrhyw leoedd gwag yn nes at ddyddiad y digwyddiad, byddwn yn eu hail-hysbysebu. 
  • Ni fydd cinio yn cael ei ddarparu yn y gynhadledd hanner diwrnod hon – ond bydd digon o de/coffi, byrbrydau a ffrwythau.
  • Gofynnwch am ganiatâd gan eich sefydliad Landlord os ydych chi am hawlio treuliau teithio i fynychu'r digwyddiad hwn.

Siaradwyr wedi’u cadarnhau hyd yma: 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

Dysgwch fwy am waith tîm Ymgysylltu BIPBC, a sut maen nhw'n cefnogi datblygiad bwriadau strategol a gweledigaeth i lunio dyfodol iechyd a gofal yng Ngogledd Cymru.

Lleihau'r Risg o Hunanladdiad yn y Sector Tai - Rhaglen Genedlaethol gan Samariaid Cymru

Clywch y diweddaraf am raglen atal risg hunanladdiad genedlaethol TPAS Cymru a Samariaid Cymru, y cyntaf o'i fath ar gyfer y sector tai yng Nghymru. Mae'r rhaglen ragweithiol ac arloesol hon i gyd yn ymwneud ag ymgysylltu â thenantiaid a gweithwyr proffesiynol tai i ddileu'r stigma a'i atal, gyda'n gilydd.

Cyngor Sir Ynys Môn. Tai Môn - ‘Eich Cartref, Eich Llais’
Darganfyddwch y nifer o ffyrdd y gall Tenantiaid Cyngor Sir Ynys Môn ddweud eu dweud a chymryd rhan mewn gwasanaethau tai a helpu i wneud cartrefi a chymunedau yn lleoedd gwell i fyw ynddynt. Er mwyn ymgysylltu â thenantiaid ar draws ardaloedd gwledig a threfol, byddwn hefyd yn clywed sut mae cyflwyno'r bws ymgysylltu â thenantiaid wedi helpu i gyrraedd tenantiaid a thrigolion o bob cefndir a chymuned.
 
Sut i archebu eich lleoedd:

Anfonwch ebost at [email protected] i archebu eich lle/oedd ac i roi gwybod am unrhyw anghenion hygyrchedd neu ddeietegol erbyn 02.03.26.

Y dyddiad cau ar gyfer archebion yw 02.03.26

Diolch mawr i noddwyr ein digwyddiad:

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cartrefi a Chymunedau Gogledd Cymru – Cynhadledd ½ diwrnod 2026

Dyddiad

Dydd Mercher 11 Mawrth 2026, 10:00 - 13:00

Archebu Ar gael Tan

02 Mawrth 2026

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Venue Cymru

Cyfeiriad y Lleoliad

The Promenade
Penrhyn Crescent
Llandudno
Conwy
LL30 1BB

01492 872000

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X