Ydych chi'n ystyried cyflwyno enwebiad ar gyfer Gwobrau TPAS Cymru eleni ond ddim yn siŵr beth yw'r ffordd orau o 'fynd ati' neu os ydych chi eisiau gwybod mwy?

Sut i ysgrifennu a chyflwyno enwebiad ar gyfer gwobrau

Dydd Mawrth 10 Mawrth 12.00pm - 12.30pm

Ydych chi'n ystyried cyflwyno enwebiad ar gyfer Gwobrau TPAS Cymru eleni ond ddim yn siŵr sut orau i fynd ati neu ydych chi eisiau gwybod mwy? Neu, efallai eich bod chi eisiau gofyn cwpl o gwestiynau am ba wybodaeth sydd angen i chi ei chynnwys yn yr enwebiad?

Cymerwch 30 munud yn unig a byddwn ni'n trafod popeth sydd angen i chi ei wybod ac yn rhoi trosolwg hanfodol a defnyddiol i chi o gategorïau'r gwobrau a'r broses ar gyfer cyflwyno cais.

Beth bynnag yw eich cwestiwn neu bryder, byddwn ni'n gallu helpu! Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn amser cinio anffurfiol ond defnyddiol iawn hon lle byddwn ni'n rhoi rhai Awgrymiadau Gorau i chi ar sut i wneud eich enwebiad y gorau y gall fod.

Pwy ddylai fynychu?

Unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno enwebiad ar gyfer Gwobrau TPAS Cymru.

Cost – RHAD AC AM DDIM

Pethau i'w gwybod:
  • Gweminar ar-lein dros Zoom fydd hon
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio

Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Sut i ysgrifennu a chyflwyno enwebiad ar gyfer gwobrau

Dyddiad

Dydd Mawrth 10 Mawrth 2026, 12:00 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 10 Mawrth 2026

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

david lloyd

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

AGOS X

MM