Beth ydyw?
Bydd TPAS Cymru, fel arbenigwyr ymgysylltu yng Nghymru, yn Yr Atom, Cearfyrddin ar 12 Tachwedd i ddarparu hyfforddiant a fydd yn newid y ffordd yr ydych yn ymgysylltu â'ch cymunedau.
Rydym am ddangos i chi sut i ehangu a thrawsnewid eich ymgysylltiad gan ddefnyddio technegau digidol syml ond effeithiol. Mae'n llawn syniadau, ond mae'n hwyl, yn ymarferol ac mae'n cynnwys enghreifftiau clir o ystod eang o sectorau o Gymru a thu hwnt. Fe gewch eich ysbrydoli!
Byddwn yn gorffen y diwrnod gyda golwg ar dechnoleg newydd a fydd yn effeithio ar sut y bydd pobl yn ymgysylltu â'i gilydd yn y dyfodol.
Eraill sydd wedi elwa
Cafodd yr hyfforddiant hwn ei ddatblygu yn y 12 mis diwethaf, ond mae'n cael ei diweddaru bob mis gyda deunydd newydd.
Fe'i cyflwynwyd i nifer o Landlordiaid ac Awdurdodau Lleol hyd yma i swyddogion a thenantiaid a derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn.
Yn ogystal, mae sefydliadau’r trydydd sector megis MIND a BASW wedi elwa.
Ar gyfer pwy?
Am y canlyniadau gorau, yn ddelfrydol dylai mynychwyr allu defnyddio ffôn smart neu dabled, wedi defnyddio un math o gyfryngau cymdeithasol a gwybod sut i lawr lwytho ap. Nid yw hwn ar gyfer y rhai â sgiliau digidol isel iawn.
Cyflwynir gan
David Wilton, Prif Weithredwr TPAS Cymru.
Mae'r rolau blaenorol yn cynnwys Pennaeth Digidol Legal & General PLC, ond mae'n fwy balch o fod yn defnyddio'r technegau yn yr hyfforddiant hwn i gynorthwyo sefydliadau i ymhelaethu eu negeseuon a'u dulliau ymgysylltu.
I archebu eich lle, gellir gwneud hyn trwy ein system archebu ar-lein isod. Noder: mae’n rhaid i ni dderbyn eich archebion erbyn y dyddiad cau o 5 Tachwedd 2019.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Defnyddio Digidol ar gyfer Ymgysylltu â Thenantiaid a'r Gymuned (Caerfyrddin)
Dyddiad
Dydd Mawrth
12
Tachwedd
2019, 09:30 - 15:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Gwener 08 Tachwedd 2019
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
David Wilton
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Yr Atom
Cyfeiriad y Lleoliad
18 King Street
Carmarthen
Carmarthenshire
SA31 1BN
0300 3231848