Mae cyfrannu arian ar-lein (tap to donate) yn fath gyffrous newydd o godi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau cymunedol. Mae'r astudiaethau achos codi arian cychwynnol yn gadarnhaol iawn. Felly, mae TPAS Cymru yn falch o gynnig gweminar am ddim i roi cyflwyniad i arweinwyr cymunedol a thenantiaid i'r math newydd hwn o godi arian.
Efallai eich bod wedi gweld elusennau yn ei ddefnyddio ar y stryd fawr. Roedd David, mewn priodas ac roedd ‘tap to donate’ digyswllt wedi’i sefydlu yn yr eglwys ar gyfer y gynulleidfa. Dyma oedd yr ysbrydoliaeth TPAS Cymru ar gyfer y weminar ragarweiniol hon.
Bydd y gweminar yn cynnwys:
1. Beth yw ‘Tap to Donate’? - y ffordd newydd i gyfrannu arian yn ddigyswllt.
2. Esiamplau o astudiaethau achos o elusennau sydd wedi ei ddefnyddio’n llwyddiannus.
3. Pam fod elusennau/sefydliadau cymunedol llai yn gorfod ei ystyried?
4. Beth sydd ei angen arnoch i gychwyn? Cost, Opsiynau cyflenwyr, prynu neu rentu, logisteg gofynion fel Wifi neu signal ffôn
5. Beth arall sydd angen i chi ei ystyried os nad ydych chi'n elusen? e.e. llyfrgell wirfoddol, ysgol neu grŵp crefyddol neu gwmni budd cymunedol (CIC)
Yn addas i bawb: Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy. Yn addas ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn yr opsiwn codi arian newydd hwn ar gyfer elusennau bach a sefydliadau cymunedol.
Noder: Gweminar rhagarweiniol ar y pwnc yw hwn. I gael golwg fanylach ar y mater hwn, cysylltwch â TPAS Cymru yn uniongyrchol.
Bonws: Anfonir canllaw hawdd ei ddilyn TPAS Cymru at y mynychwyr ar sut i ddechrau, gan gynnwys dadansoddiad o gyflenwyr o ran costau ac ystyriaethau.
Peidiwch archebu drwy'r ffurflen archebu safonol isod gan fod angen archebu'n uniongyrchol drwy ein meddalwedd gweminar.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Gweminar - Sut i drawsnewid eich incwm codi arian / cymunedol trwy gyfrannu arian ar-lein (tap to donate).
Dyddiad
Dydd Mercher
22
Ionawr
2020, 11:00 - 11:45
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 21 Ionawr 2020
Math o ddigwyddiad
Ymgysylltu â'r gymuned
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
David Wilton
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad