Ail-wefru eich pwerau archarwr o ran ymgysylltu
Mae ein diwrnod rhwydwaith swyddogion Cymru gyfan yn fan lle gall pawb sy'n gweithio ym maes Ymgysylltiad Tenantiaid a Chymunedau ganfod syniadau, clywed am yr arferion diweddaraf ac ail-wefru eu pwerau archarwr. Mae'n le i ni ofyn cwestiynau, rhannu profiadau a gwybodaeth, cyfnewid awgrymiadau a gwneud cysylltiadau newydd. Mae'n rhywle y gall pob un ohonom ddod i rwydweithio, rhannu syniadau a gwybodaeth.
Rydym wastad wedi gwybod mai'r cymysgedd anhygoel o bobl sy'n cymryd rhan yn ein diwrnodau rhwydwaith ar y cyd sy'n eu gwneud yn wych, felly os oes gennych ddiddordeb mewn clywed gan eraill o wahanol sefydliadau neu os ydych eisiau rhannu syniadau, dewch draw a chymryd rhan.
Bydd y dydd yn cynnwys y canlynol:
-
Enghreifftiau o astudiaethau achos arfer da gan siaradwyr gwadd
-
Sesiynau rhwydweithio yn seiliedig ar y themâu allweddol diweddaraf, gan gynnwys:
-
Cipolwg Ymddygiadol /’Nudge’ - A allai ein helpu i gael mwy o bobl i gymryd rhan? Archwiliwch sut y gallwn ddefnyddio'r hyn a wyddom am sut mae pobl yn ymddwyn ac yn meddwl, i ddod o hyd i ffyrdd i'w hannog i gymryd rhan. Ydych chi wedi ceisio defnyddio ‘nudge’?
-
Gwerthuso ac Adrodd yn ôl – sut ydych chi'n gwerthuso'r gwahaniaeth y mae eich gweithgareddau ymgysylltu yn ei wneud? Sut ydych chi'n dangos bod ‘deilliannau' yn cael eu cyflawni? Sut ydych chi'n rhoi adborth am y gwahaniaeth mae ymgysylltu yn ei wneud?
-
Dulliau Seiliedig ar Asedau – a yw'r dull hwn yn gweithio ar gyfer Ymgysylltiad Tenantiaid a Chymunedau? Sut y gellir defnyddio'r dull hwn? Beth i’w ystyried.
Hefyd, os ydych chi'n awyddus i ddangos eich gwaith ar-lein drwy rannu prosiectau rydych chi wedi bod yn ymwneud â nhw, mi gewch, gan y bydd cyfleoedd i chi gyflwyno a rhoi cynnig ar siarad mellt yn steil ‘PechaKucha’! (Mae PechaKucha yn fath o gyflwyniad lle mae 20 sleid yn cael ei ddangos am 20 eiliad yr un (6 munud a 40 eiliad i gyd. Mae’r dull yma yn cadw cyflwyniadau yn gryno a chyflym).
Rhowch wybod i ni os ydych eisiau siarad.
Mae hwn yn ddigwyddiad i aelodau TPAS Cymru yn unig ac mae’n addas ar gyfer bob aelod o staff.
NODER - roedd digwyddiad y llynedd wedi gwerthu allan, felly archebwch eich lle yn gynnar drwy’r system archebu ar-lein isod
Gobeithiwch eich gweld chi yno.
Dewch â’ch pwerau archarwyr o wybodaeth, profiad, brwdfrydedd, didwylledd a’r parodrwydd i wrando ar eraill i weithio pethau allan gyda’ch gilydd - Nid oes angen gwisg archarwyr.
Os hoffech lety yn y gwesty’r noson cynt, gan and yw eich pwerau’n gallu ymdopi â chodi’n fuan y ar y bore, rydym wedi trefnu cytundeb corfforaethol gyda'r gwesty - Gwely a Brecwast am £90/y noson. Os oes rywun eisiau archebu, cysylltwch â’r Metropole yn uniongyrchol a dywedwch ei fod ar gyfer rhwydwaith TPAS Cymru'r diwrnod canlynol.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Rhwydwaith Swyddogion Cymru Gyfan 2019
Dyddiad
Dydd Mercher
17
Gorffennaf
2019, 10:00 - 15:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2019
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
[email protected]
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
The Metropole Hotel
Cyfeiriad y Lleoliad
The Metropole Hotel and Spa
Temple Street
Llandrindod Wells
Powys
LD1 5DY
+44 (0) 1597 823700