Mae'r cwrs hwn yn orlawn o dechnegau ac atebion ymarferol i fynd â'ch cyfranogiad cymunedol i lefel newydd
Byddwch chi'n synnu pa mor syml yw rhai o'r dulliau wrth gyrraedd cynulleidfa gymunedol lawer ehangach. Nid yw hyn yn ymwneud â chyfryngau cymdeithasol yn unig, rydym yn edrych ar gymaint mwy ar draws technegau digidol a sut y gellir ei ddefnyddio i hybu ymgysylltu, cyfranogi a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Mae'r byd digidol yn llawn offer ac adnoddau rhad ac am ddim neu gost isel i drawsnewid eich llwyddiant ymgysylltu. Caiff y digwyddiad hyfforddi hwn ei addasu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn cael ei diweddaru'n gyson, a byddwch yn dysgu am y technegau y gallwch eu rhoi ar waith a'u gweithredu'n syth. Diddordeb? Archebwch heddiw.
Ar gyfer pwy?: Unrhyw un sydd eisiau ehangu eu hymgysylltiad ar-lein a chyfathrebu ag ystod ehangach o gyfranogwyr cymunedol.
Nodyn 1: Nid yw ar gyfer y rhai sydd â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig. Yn ddelfrydol, bydd cyfranogwyr yn gyfarwydd â defnyddio ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur personol. Maent eisoes yn gallu pori ar-lein ac yn ddelfrydol wedi defnyddio un math o gyfryngau cymdeithasol.
Nodyn 2: Yn ychwanegol i'r rhai sydd wrth wraidd ymgysylltu â'r gymuned, mae nifer o staff cyfathrebu, staff sy’n gweithio â phobl ifanc, a’r rheini sy’n ymwneud â chreu swyddi neu gefnogi / mentora busnesau newydd wedi elwa o’r hyfforddiant yma.
Nodyn 3: Dyma beth mae pobl gogledd Cymru wedi ei ddweud ar ôl mynychu'r hyfforddiant.
.

Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Technegau Ymgysylltu Digidol (Abertawe)
Dyddiad
Dydd Llun
26
Chwefror
2018, 09:30 - 03:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Llun 19 Chwefror 2018
Math o ddigwyddiad
Ymgysylltu â'r gymuned
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
David Wilton
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
SYSHP (Swansea Young Single homeless project)
Cyfeiriad y Lleoliad
52 Walter Road
Swansea
SA1 5PW
01792 537530